Creu Ardal Fenter ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Economi, Edwina Hart, wedi cyhoeddi y bydd ardal fenter yn cael ei sefydlu ym Mhort Talbot, mewn ymdrech i greu twf economaidd a swyddi yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am ddiswyddiadau yng ngwaith dur Tata.
Y gobaith yw y bydd statws Ardal Fenter yn cymell cwmniau i sefydlu yno trwy gynnig telerau treth a busnes rhatach. Roedd hwn yn un o'r syniadau ddaeth o'r tasglu gafodd ei sefydlu i gefnogi'r diwydiant dur.
Dywedodd y Gweinidog: "Y cyhoeddiad am ddiswyddiadau yng ngwaith Tata ym Mhort Talbot yw'r ergyd ddiweddara i'r diwydiant dur yng Nghymru. Gan ei fod yn gyflogwr mor fawr, mae'n sicr o gael effaith ar yr economi leol ac rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r ardal."
"Byddwn yn gweithio'n agos gyda Rhanbarth Dinas Bae Abertawe, yr awdurdod lleol a chyflogwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn sicrhau fod Ardal Fenter Glannau Port Talbot yn llwyddiannus."