Trafod newid dalgylch ysgolion yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad yn cyd-fynd â chynnig Cyngor Caerdydd i newid dalgylch Ysgol Pencae
Bydd cabinet Cyngor Caerdydd yn cyfarfod ddydd Llun i drafod adroddiad ar ddiwygio dalgylch ysgolion yn y brifddinas.
Mae cynlluniau i newid dalgylch Ysgol Gynradd Pencae yn ardal Llandaf yn derbyn cefnogaeth yr arolwg, ond mae'n gwrthod cynigion y cyngor i newid dalgylch ysgolion cyfrwng Saesneg yn Nhreganna.
Pe bai'r cyngor yn cymeradwyo'r argymhellion, byddai plant Ysgol Pencae yn mynd i Ysgol Gyfun Glantaf am eu haddysg uwchradd.
Ar hyn o bryd, mae disgyblion yr ysgol gynradd honno'n mynd i Ysgol Gyfun Plasmawr.
Mae'r cyngor yn dweud eu bod yn rhagweld y bydd mwy o alw nag o lefydd i ddisgyblion ym Mhlasmawr o Fedi 2017 ymlaen, tra y bydd 'na leoedd gwag yng Nghlantaf yn yr un cyfnod.

Byddai dalgylch Ysgol Gyfun Glantaf yn ehangu o dan gynlluniau'r cyngor
Mae'r adroddiad yn awgrymu pedio gweithredu'r cynlluniau i newid dalgylch ysgolion cyfrwng Saesneg yn Nhreganna.
Byddai'r newidiadau wedi effeithio ysgolion uwchradd Cantonian a Fitzalan ac ysgolion cynradd Kitchener, Lansdowne, Radnor a Severn.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, sy'n gyfrifol am addysg ar gabinet Cyngor Caerdydd:
"Rwy'n cydnabod bod canfyddiadau'r ymgynghoriad yn gefnogol o newidiadau i ddalgylchoedd ysgolion Cymraeg ardal Llandaf. Bydd hyn yn galluogi'r cyngor i fwrw ymlaen â chynlluniau i baru'r cyflenwad â'r galw am addysg Gymraeg yn yr ardal.
"Ystyriwn opsiynau pellach ar gyfer addysg Saesneg yn ardal Treganna, gan wneud defnydd llawn o'r llefydd ysgol sydd ar gael a bodloni'r lefel newidiol o alw yn yr ardal. Ni all Fitzalan ateb y galw am leoedd, ond lai na thair milltir i ffwrdd, mae gan Cantonian lefydd gwag.
"Bydd swyddogion yn adolygu ysgolion uwchradd yr ardal, i baru'r galw a'r cyflenwad yn well a sicrhau safonau addysgol uchel cyson."