Ffyrdd Cymru'n 'dirywio oherwydd diffyg gwariant'
- Cyhoeddwyd
Mae'n mynd i gymryd saith mlynedd a £700m i sicrhau fod holl ffyrdd Cymru mewn cyflwr boddhaol, medd adroddiad newydd.
Daeth arolwg Alarm (Annual Local Authority Maintenance) i'r casgliad fod ffyrdd Cymru'n cael wyneb newydd bob 59 mlynedd ar gyfartaledd, a bod 115,000 o dyllau wedi eu llenwi yma yn 2015.
Cafodd y casgliadau eu cyhoeddi wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi buddsoddiad o £28m mewn prosiectau trafnidiaeth.
Yn ôl yr arolwg, sy'n cael ei gynnal gan Gynghrair y Diwydiant Asphalt, fe hawliodd defnyddwyr ffyrdd Cymru iawndal gwerth £4m y llynedd.
Gwahaniaethau mawr
Mae'r ffigyrau'n dangos fod awdurdodau Cymru wedi cael mwy o gyllid ar gyfartaledd i gynnal a chadw ffyrdd nag awdurdodau yn Lloegr - £7.8m (£7m oedd y ffigwr ar gyfer 2014/15).
Serch hynny, o ymchwilio ymhellach, mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod yna wahaniaeth mawr rhwng un awdurdod a'r llall, gyda rhai cynghorau'n cael nawdd ychwanegol, tra bo eraill yn gweld eu cyllidebau'n lleihau, a'r arian yn cael ei ddargyfeirio i adrannau eraill.
Yn y cyfamser, dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, y bydd yr arian mae hi'n ei gyhoeddi yn cyfrannu at 100 o gynlluniau "i wella diogelwch, creu twf economaidd a hybu teithio llesol".
Ymysg y prosiectau fydd yn elwa mae Ffordd Ddosbarthu'r Morfa, dolen allanol, fydd yn cael £1.1m i wella mynediad i swyddi a gwasanaethau a lleihau tagfeydd a phroblemau ansawdd awyr ar yr A4067.
Rhai o'r cynlluniau eraill fydd yn elwa:
£1.4m ar gyfer ffordd gyswllt A48-A473 i wella mynediad i Ystâd Ddiwydiannol Waterton, Pen-y-bont
£1.1m ar gyfer canolfan drafnidiaeth Port Talbot
£1.7m tuag at adeiladu ffordd gyswllt Llangefni
£5m ar gyfer 30 o lwybrau cerdded a beicio mewn 20 awdurdod lleol
£1.9m ar gyfer rhaglenni hyfforddiant diogewlch ffyrdd fel PassPlus Cymru, Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol a hyfforddiant beicio modur.
Creu Comisiynydd Traffig
Cyhoeddodd Mrs Hart hefyd y bydd £210,000 yn cael ei glustnodi er mwyn creu rôl Comisiynydd Traffig Cymru a thri aelod o staff, os ceir sêl bendith gan Lywodraeth y DU.
Byddai'r comisiynydd yn gyfrifol am faterion fel trwyddedu gweithredwyr Cerbydau Nwyddau Trwm a bysiau a choetsys; cofrestru gwasanaethau bws lleol a chaniatáu trwyddedau galwedigaethol, a chymryd camau yn erbyn gyrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm a Cherbydau Gwasanaeth Cyhoeddus.