'Ymddiheuriad' heddlu am honiadau cam-drin
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru'n deall fod un o brif swyddogion Heddlu Gwent wedi "ymddiheuro'n" breifat am i'r llu fethu â chysylltu gwybodaeth y cawson nhw am gyn bennaeth ysgol oedd wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol.
Mae Jon Styler yn cael ei gyhuddo o gam-drin bechgyn mewn ysgolion yng Nghasnewydd a Sir Gaerwrangon rhwng diwedd y 1960au a'r 1980au.
Fe laddodd ei hun yn 2007 ac roedd yn gwadu'r holl gyhuddiadau.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Gwent fod Jon Styler - pan laddodd ei hun - wedi amddifadu ei ddioddefwyr o'r cyfiawnder maen nhw'n ei haeddu.
'Ymddiheuro'
Cyn hyn, mae BBC Cymru wedi clywed na wnaeth Heddlu Gwent gysylltiad rhwng gwybodaeth gawson nhw yn 2005 a honiad a wnaed yn 2007.
Nawr mae un dioddefwr honedig yn dweud fod Ditectif Brif Uwch-arolygydd wedi ymddiheuro wrtho am i'r llu fethu â chysylltu'r ddau adroddiad.
Mae Jeff Parry'n dweud iddo gael ei gam-drin gan Jon Styler yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru ym Malpas, Casnewydd yn y 1970au. Mae'n dweud iddo gael ymddiheuriad gan bencadlys Heddlu Gwent ym mis Tachwedd 2015.
Dywedodd wrth BBC Cymru fod swyddogion wedi ei gwneud yn glir eu bod yn argyhoeddedig y byddai cysylltiad wedi ei wneud petai'r ymchwiliad wedi parhau.
"Fe ymddiheuron nhw am beth ddigwyddodd, fe wnaethon nhw'n glir, ar adeg yr ymchwiliad, petai'r ymchwiliad wedi parhau, eu bod yn siwr y byddai yna gysylltiad wedi ei wneud rhwng y ddwy ffeil neu'r ddwy gwyn, ac wedyn fe fydden nhw wedi cysylltu'n ôl â'r achwynwr gwreiddiol er mwyn gweld a fyddai'n barod i wneud datganiad ffres."
Y gred yw fod y swyddog wnaeth yr ymddiheuriad bellach wedi ymddeol ac nad oedd yn rhan o'r ymchwiliad gwreiddiol i Jon Styler.
Deellir fod yr unigolyn wnaeth y gwyn yn 2005 wedi penderfynu peidio a bwrw mlaen a honiad ffurfiol.
'Dal y rhai sy'n gyfrifol'
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Craig Guildford o Heddlu Gwent: "Pan benderfynodd Jon Styler ladd ei hun, fe amddifadodd ei ddioddefwyr o'r cyfiawnder y maen nhw'n ei haeddu.
"Serch hynny, o wneud y penderfyniad dewr i gysylltu â ni, rydym wedi gallu cyfeirio'r dioddefwyr hynny i fudiadau all gynnig help a chymorth.
"Os yw hyn wedi effeithio ar unrhyw un, neu os yw unrhyw un mewn sefyllfa debyg, rydym yn eich annog i gysylltu â ni fel y gallwn ni eich helpu. Dylai troseddau o'r natur hyn gael eu clywed. Mae gennym swyddogion arbenigol all roi cefnogaeth a gwneud popeth posib i ddal y rhai sy'n gyfrifol."
Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi dweud bod angen edrych eto ar y modd y deliodd yr heddlu a'r achos.
Mae Heddlu Gwent wedi cynnal adolygiad mewnol o'r ymchwiliad gwreiddiol i achos Jon Styler.
Roedd Mr Styler yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.