Prynu safle i ganolfan iechyd £8m yn Nhregaron

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Cymunedol TregaronFfynhonnell y llun, Roger Kidd/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cynllun yn cymryd lle Ysbyty Cymunedol Tregaron

Mae safle gwerth £727,000 wedi cael ei brynu i adeiladu canolfan iechyd i bobl sy'n byw mewn cymuned cefn gwlad yng Ngheredigion.

Mae'r cynlluniau terfynol ar gyfer y cynllun gwerth £8m, Cylch Caron, wedi cael eu cyflwyno i'r Cynulliad, gyda'r nod o uno iechyd, tai a gwasanaethau cymdeithasol ar un safle.

Bydd yn cymryd lle Ysbyty Cymunedol Tregaron, cartref gofal a meddygfa.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford y byddai'r cynllun yn dod a gwasanaethau yn "agosach at y bobl sydd eu hangen".

"Trwy gydweithio a chanolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, bydd y gwasanaethau hyn yn helpu pobl i fyw bywydau egnïol ac annibynnol," meddai.

Mae cynlluniau hefyd ar gyfer 34 o fflatiau i bobl sydd angen mwy o ofal a chefnogaeth i aros yn eu tai eu hunan, a chwe safle ar gyfer pobl sydd angen mwy o gefnogaeth cyn iddyn nhw ddychwelyd adref o'r ysbyty.