Ateb y Galw: Lucy Owen

  • Cyhoeddwyd
Lucy

Lucy Owen, cyflwynydd Wales Today ac X-Ray sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Sarra Elgan.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Does gen i ddim cof da ond dwi'n cofio mam.

Pwy oeddet ti'n ffansio pan yn ieuengach?

John Taylor o Duran Duran.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ateb y cwestiynau yma!

Disgrifiad o’r llun,

Ydy Lucy am ffoi o'r wlad mewn c'wilydd ar ôl Ateb y Galw?

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Gwrando ar gyfweliad gyda mam oedd wedi colli ei mab oedd wedi ei lofruddio. Roedd y llofrudd wedi ffurfio perthynas gydag e ar y we.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dydw i ddim yn dda am hongian fy nillad yn y wardrob.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Unrhyw draeth. Mae traethau Cymru yn ddi-guro.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fy mharti pen-blwydd yn 40. Cawsom ni barti gwisg ffansi Disney gwallgo' gydag ambell i ymddangosiad annisgwyl gan hen ffrindiau.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Mam. Lwcus. Hapus.

Beth yw dy hoff lyfr?

'The Twits' gan Roald Dahl. Rwy'n caru'r dyfyniad:

"If you have good thoughts it will shine out of your face like sunbeams and you will always look lovely."

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Dim dilledyn, ond esgidiau. Mae sodlau uchel yn hanfodol. Gyda gwadnau coch os ydy hynny yn ymarferol bosibl!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Fersiwn Kenneth Branagh o 'Cinderella'.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Matthew Rhys!!

Disgrifiad o’r llun,

Sut hwyl fyddai Matthew Rhys yn ei gael ar gyflwyno'r newyddion yn ei sodlau uchel?

Dy hoff albwm?

Goreuon Dolly Parton.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Prif gwrs - lasagne.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

Wonderwoman. Fe allwn i elwa o'i chyngor!

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesa?

Fy ngŵr, Rhodri Owen

Disgrifiad o’r llun,

Fydd Rhodri yn dal i wenu ar ôl iddo gael ei holi yn dwll gan Cymru Fyw?