Galw ar Tata i 'sefyll yn gadarn' wrth drafod Port Talbot

  • Cyhoeddwyd
Port Talbot steelworksFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Port Talbot

Mae'n rhaid i gwmni Tata sefyll y gadarn, peidio â chymryd mesurau panig, a chefnogi gwaith dur Port Talbot yn ôl cynrychiolwyr y gweithwyr ar drothwy cyfarfod yn India fydd yn trafod dyfodol y safle yn ne Cymru.

Mae cynrychiolwyr Undeb Community a'r aelod seneddol lleol wedi hedfan i Mumbai ar gyfer trafodaethau gyda Bwrdd Rheoli Tata ddydd Mawrth.

Ym mis Ionawr, clywodd Port Talbot y bydd 750 o weithwyr yn colli eu gwaith yno.

Dywedodd AS Aberfan, Stephen Kinnock, y dylai'r cwmni gefnogi cynllun i fuddsoddi yn nyfodol Port Talbot.

Mae o'r farn y byddai'r cynllun dan sylw yn sicrhau y byddai'r safle yn gwneud elw yn yr hir dymor.

'Mewnforion rhad'

Yn ôl amcangyfri' Tata roedd y safle yn colli tua £1 miliwn bod diwrnod cyn y cyhoeddiad yn Ionawr am ddiswyddo 750.

Mae'r gwaith cynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn parhau i gyflogi 3,500.

Dywedodd Ysgrifennydd cyffredinol Commuinity, Roy Rickhus: "Does yna neb nad sy'n ymwybodol o'r her enfawr rydym yn ei wynebu, ond mae'r diwydiant dur yn holl bwysig i'n cymunedau, ein teuluoedd ac ein cenedl."

"Ym Mumbai byddaf yn siarad ar ran y diwydiant dur yn y DU, ac yn gofyn i Tata roi'r cyfle sydd ei angen arnom er mwyn llwyddo."

Yn ôl yr undeb, costau ynni uchel ynghyd â mewnforion rhad o China, a gwerth y bunt sy'n gyfrifol am argyfwng presennol y diwydiant yn y DU.

Disgrifiad o’r llun,

Stephen Kinnock

Dywedodd Mr Kinnock, sydd hefyd wedi teithio i India: "Beth sydd ei angen nawr yw i Tata sefyll yn gadarn a chymeradwyo'r cynllun, yna gall pawb symud ymlaen."

Byddai hynny, meddai, yn sicrhau na fyddai'r safle yn gwneud colled, ac yn yr hir dymor yn gwneud elw.

Fe fydd bwrdd Tata yn cwrdd ddydd Mawrth i drafod diswyddo dros 1,000 o weithwyr yn y DU.

Dywedodd Karl Koehler prif weithredwr Tata Steel yn Ewrop : "Rwy'n gwybod fod hyn yn amser anodd i'r rhai sy'n cael eu heffeithio, ond mae angen penderfyniadau anodd o'r fath yn wyneb amgylchiadau anodd, amgylchiadau sy'n debygol o barhau am beth amser. "