Llafur a'u gafael ar Gymru

  • Cyhoeddwyd
Logo Llafur Cymru

Roedd Llafur yng Nghymru ar ben ei digon yn dilyn etholiad cyffredinol 1997; un o'i chanlyniadau gorau yng Nghymru gyda 34 o'r 40 Aelod Seneddol yn perthyn i'r blaid.

Ond roedd etholiadau cyntaf y Cynulliad ddwy flynedd yn ddiweddarach yn wers ynghylch â pha mor sydyn all pethau newid yn y byd gwleidyddol.

Cyn i etholwyr fynd i'r blychau pleidleisio roedd y blaid wedi mynd drwy frwydr arweinyddiaeth chwerw rhwng Alun Michael a Rhodri Morgan.

Mr Michael, dewis Tony Blair, enillodd yn y pen draw, a hynny gyda chefnogaeth pleidlais yr undebau. Roedd trwch yr aelodau ar lawr gwlad wedi cefnogi Mr Morgan. O ganlyniad roedd hi'n annodd i'r blaid ateb yr honiad ei bod yn cael ei "rheoli o Lundain".

Roedd pris i'w dalu am hynny. Yn yr etholiad collodd y blaid rhai o'i chadarnleoedd fel Y Rhondda, Llanelli ac Islwyn i Blaid Cymru.

Yn ôl y dyn oedd wedi cydlynu'r ymgyrch, aelod seneddol Castell-nedd Peter Hain, roedd y canlyniadau'n dangos fod y blaid mewn "argyfwng" ac angen adnewyddu. Dywedodd Mr Hain fod yna "rybudd clir iawn yn ein cadarnleoedd. Rydym wedi bod yn rhy hunanfodlon ers yn rhy hir."

'Gwir blaid Cymru'

Felly aeth y blaid drwy gyfnod o adlewyrchu ac, ar ôl rhai misoedd, cafodd adroddiad ei gyhoeddi yn dod i'r casgliad fod angen i'r blaid ddiosg yr argraff mai Llundain oedd yn ei rheoli ac ailsefydlu ei hun yn wleidyddol fel "gwir blaid Cymru".

Gyda 28 Aelod Cynulliad ffurfiodd Llafur lywodraeth leiafrifol dan arweinyddiaeth Alun Michael. Ond wnaeth hynny ddim para'n hir iawn. Ym mis Chwefror 2000 mi wnaeth Mr Michael synnu ei gefnogwyr a'i wrthwynebwyr drwy ymddiswyddo cyn pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth.

Felly ar ôl colli dwy frwydr arweinyddol (i Ron Davies ac yna i Alun Michael), daeth Rhodri Morgan yn arweinydd ar y blaid ac yn Brif Ysgrifennydd - newidiodd i fod yn Brif Weinidog yn Hydref 2000. Ei benderfyniad o oedd ffurfio clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.

O dan arweinyddiaeth Rhodri Morgan, dechreuodd y blaid ar drywydd gwahanol a ffurfio'i hunaniaeth "Gymreig" ei hun; yr enghraifft amlycaf o hyn oedd defnydd Mr Morgan o "ddŵr coch croyw" i ddangos y gwahaniaeth rhwng Llafur yng Nghymru ac yn San Steffan.

Erbyn yr etholiad nesaf yn 2003 llwyddodd y blaid i adfer rhywfaint o'r tir oedd wedi'i golli yn 1999. Mi lwyddon nhw i gipio Llanelli, Y Rhondda ac Islwyn yn ôl oddi ar Blaid Cymru. Ond mi gollon nhw Wrecsam i John Marek, cyn AS ac Aelod Cynulliad i'r blaid oedd wedi ei ddad-ddewis fel ymgeisydd ac wedi sefyll fel ymgeisydd annibynol. Ar y cyfan enillodd y blaid 30 o seddi, dwy yn well na phedair blynedd ynghynt.

Rhestrau menwyod

Ond fyddai'r mwyafrif trwch blewyn ddim yn para. Yn dilyn ffrae dros restrau byr menywod-yn-unig ym Mlaenau Gwent, penderfynodd AC yr etholaeth, Peter Law, y byddai'n sefyll yn erbyn yr ymgeisydd Llafur, Maggie Jones. Enillodd Mr Law gan olygu fod Llafur yn colli un o'r seddi mwyaf diogel ym Mhrydain i'r blaid. Arhosodd Law yn y Cynulliad fel aelod anibynnol tan ei farwolaeth yn 2006 ac enillodd ei wraig, Trish, yr isetholiad i'w olynu.

Fyddai hyd yn oed cefnogwyr mwyaf pybyr y blaid yn ei chael hi'n annodd dathlu rhyw lawer yn dilyn canlyniad y blaid yn 2007. Collodd y blaid chwe sedd etholaethol wrth golli 8% o'r bleidlais. Enillodd ddwy sedd etholaethol i roi cyfanswm o 26 AC.

Am gyfnod roedd hi'n edrych yn bosib, yn debygol hyd yn oed, y gallai'r blaid wynebu cyfnod ar y meinciau cefn ym Mae Caerdydd gyda thrafodaethau rhwng y pleidiau eraill ynghylch â ffurfio "clymblaid enfys".

Dywedodd Rhodri Morgan ar y pryd nad oedd y blaid yn "hollol gyfrifol am ein ffawd ar hyn o bryd".

Yn y pen draw llwyddodd Morgan a Llafur i ddal eu gafael a ffurfio clymblaid arall gyda Phlaid Cymru i greu llywodraeth "Cymru'n Un", fyddai'n para gydol y trydydd Cynulliad o 2007-2011.

Wedi degawd wrth y llyw, ym mis Medi 2009 cyhoeddodd Rhodri Morgan y byddai'n rhoi'r gorau iddi fel Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru ddiwedd y flwyddyn honno. Safodd Edwina Hart, Huw Lewis a Carwyn Jones yn yr ornest i'w olynu, gyda Carwyn Jones yn ennill gyda 52% o'r bleidlais.

Cyfnod newydd

Ym mis Mai'r flwyddyn ganlynol collodd Llafur ei gafael ar rym yn San Steffan, wrth i'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol uno i roi David Cameron fel Prif Weinidog. Am y tro cyntaf ers dyfodiad y Cynulliad roedd yna bleidiau gwahanol naill ben yr M4.

O gymharu â 2007, llwyddodd Llafur i adennill rhywfaint o'r tir gwleidyddol yn etholiad y Cynulliad yn 2011. Cynyddodd ei chyfran o'r bleidlais yn yr etholaethau ac ennill pedair sedd. Ar ôl cyfri'r holl bleidleisiau, roedd gan y blaid 30 Aelod Cynulliad a phenderfynodd lywodraethu ar ei phen ei hun yn hytrach na chlymbleidio unwaith yn rhagor.

Felly beth am etholiad 2016? Wel, os mai'r prif fygythiad i gadarnleoedd y blaid oedd Plaid Cymru yn 1999, efallai mai UKIP fydd yn herio'r tro yma. Yn yr etholiad cyffredinol y llynedd, roedd UKIP yn ail mewn chwe sedd yng Nghymru - a Llafur oedd yn fuddugol ym mhob un - Aberafan, Dwyrain Abertawe, Blaenau Gwent, Merthyr, Caerffili ac Islwyn.

A hyd yn oed petai UKIP ddim yn cipio'r seddi mae 'na fygythiad y gallan nhw dynnu digon o bleidleisiau mewn rhannau eraill o Gymru i wneud bywyd yn anodd i Lafur.