Rhedeg i'r eithaf
- Cyhoeddwyd
Ar 3 Ebrill bydd y cyflwynydd Lowri Morgan yn mynd 'nôl i redeg cystadleuol am y tro cyntaf ers i'w mab Gwilym gael ei eni.
Bydd Lowri yn cymryd rhan yn marathon ultra 'Run, walk, crawl', sy'n 32 milltir ar hyd arfordir Bro Morgannwg, dolen allanol. Bu hi'n son wrth Cymru Fyw am yr her sy'n ei wynebu:
Rhedeg hyd at y genedigaeth
"Mae'r penwythnos yma'n mynd i fod yn her anferthol i fi achos dwi ddim wedi rasio ers bron i ddwy flynedd, ers imi ffeindio mas bo' fi'n feichiog," meddai.
"Wnes i redeg ras 20 milltir ac wedyn yr wythnos ganlynol ges i wybod bod babi ar y ffordd. Felly mae'r ras yma am fod yn un fawr i fi yn seicolegol gan mod i heb rasio na rhedeg y pellter yma ers blynyddoedd."
Er mai ei ras gyntaf yn ôl yw hon, mae Lowri yn credu y bydd ei natur gystadleuol yn dod i'r wyneb: "Rwy'n mynd mas i fwynhau'r ras y penwythnos yma, ond dwi'n siŵr bydd yr elfen gystadleuol yn dod fewn, a'r cwestiwn wedyn yw 'sut fydda i'n gallu ymdopi â hynny?'
"Pan o'n i'n feichiog wnes i stopio rhedeg nes bod tri mis wedi mynd, ac yna es i 'nôl i redeg a parhau i wneud tan y diwrnod ddaeth y babi - o'n i'n rhedeg neu gerdded rhyw 25 milltir yr wythnos.
"Wedi geni Gwilym wnes i stopio rhedeg am 20 diwrnod, ac yna wnes i ddechrau eto gan redeg tair neu bedair milltir ar y tro. Roedd hynny'n eitha' anodd - roedd e fel dechrau 'to ac ar y pryd o'n i ddim yn gwbod sut o'n i am ddod 'nôl i redeg rasus, heb sôn am ultramarathons."
Adeiladu'n raddol eto
"Mae Gwilym newydd gael ei flwydd, ac yn y cyfnod ers ei eni dwi 'di mynd o stryglo i redeg tair neu bedair milltir i redeg 32 milltir mewn diwrnod," meddai. "Roedd rhaid adeiladu yn raddol dros y flwyddyn ac mae wedi bod yn tyff.
"Mae cael babi yn ei wneud hi'n fwy o sialens o ran amser i hyfforddi - roedd gen i amser o'r blaen i baratoi i fynd allan i redeg yn y mynyddoedd am wyth neu ddeg awr neu fwy, ond bellach dydi'r amser yna ddim 'da fi.
"Oherwydd hyn dwi 'di gorfod addasu fy ffordd o hyfforddi ac mae 'na athletwyr byd enwog fel Paula Radcliffe, Jessica Ennis-Hill a Jo Pavey wedi gorfod ymarfer am amser byrach, ond bod yr ymarfer hynny yn fwy intense ac yn galetach. Yn lle mynd allan am bedair awr i redeg o'n i'n gwneud dwy yn y bore a dwy yn hwyrach yn y dydd, ond bod y sesiynau hynny yn galetach.
"Felly ar un llaw roedd yr amser ar gyfer ymarfer yn llai, ond eto ro'n i'n pwshio fy hun yn bellach - roedd rhaid cael y milltiroedd i fewn yn gyflymach er mwyn mynd 'nôl i edrych ar ôl y babi."
Dangos esiampl
Yn aml iawn, roedd gan Lowri gwmni tra'n ymarfer: "Roeddwn i'n rhedeg lot gyda Gwilym yn y pram a Nel y ci yn cadw cwmni i ni - ma'r tri ohonom ni wedi cael anturiaethau yn ardal Caerdydd a'r Gŵyr.
"Dwi'n teimlo fod y drive gen i achos bod Gwilym gen i nawr - mae e wedi bod efo fi pob rhan o'r ffordd gyda'r rhedeg a dwi eisiau gwneud hyn drosto fe. Dwi ishie dangos iddo fe 'mod i'n cymryd rhan - efallai fydda i ddim yn ennill dydd Sawrn, efallai wnai ddim hyd yn oed gorffen, achos does dim syniad gen i mewn gwirionedd lle ydw i o ran ffitrwydd.
"Dwi eisiau fy mab dyfu lan yn gwybod mai nid y safle yn y ras sy'n bwysig, ond bo' chi'n trio'ch gore ac yn gweithio'n galed tuag at rhywbeth a dwi ishie fe fod yn anturus ac yn rhoi tro ar rywbeth - beth bynnag fydd ei ddiddordebau e yn y dyfodol."
Chwilio am yr her nesa'
"Mae gen i gynllunia ar gyfer hwyrach ymlaen yn y flwyddyn, ond yn amlwg mae'n anodd paratoi rhywbeth mawr ar y funud gan fod Gwilym mor ifanc ac fe all ambell her gymryd chi oddi cartref am dri mis.
"Bydd yr anturiaethau am nawr yn gorfod bod yn rhai intense sy'n cymryd llai o amser.
"Ond dydi cael babi heb cael gwared o fy angerdd i am antur. Os rhywbeth mae wedi fy ngwneud yn fwy penderfynol gan fy mod wedi gorfod dechrau o'r dechrau mewn ffordd.
"Fyddai pobl yn meddwl bod rhedeg 35 milltir nunlle mor agos o anodd â rhedeg 350 mlltir yn yr Arctig, ond mae e gan fy mod wedi bod allan o'r arfer o wneud.
"Dwi am wneud y Three Peaks Yacht Race mis Mehefin. Yna mis Medi dwi am redeg tri copa Cymru (Y Wyddfa, Cader Idris a Pen y Fan), gan redeg yr holl ffordd rhwng y tri mynydd hefyd.
"Bydd her rhyngwladol World First ddiwedd y flwyddyn hefyd, ond mi wnai ddatgelu mwy am hynny rhyw dro eto."