Cyngor Wrecsam i weithredu'r safonau iaith
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Wrecsam wedi cadarnhau y bydd Safonau'r Iaith Gymraeg yn cael eu rhoi ar waith yn y sir.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn dadl y llynedd pan wnaeth Cymdeithas yr Iaith gyhuddo'r cyngor o or-amcangyfrif beth fyddai'r gost o weithredu'r safonau.
Dywedodd y cyngor yn wreiddiol y byddai'n costio £700,000 i gydymffurfio gyda'r safonau, cyn lleihau'r ffigwr i £250,000.
Mae'r awdurdod yn parhau i ddisgwyl canlyniad apêl am 10 o'r 171 o safonau y mae'n gorfod eu gweithredu.
Fe wnaeth adroddiad i fwrdd gweithredol y cyngor rybuddio y gallai methiant i gydymffurfio â'r safonau arwain at ddirwy o hyd at £5,000 ar gyfer pob un o'r safonau.
Mewn adroddiad, dywedodd yr awdurdod: "Fe fyddwn yn gweithio gyda swyddogion unigol dros y misoedd nesaf i sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio a bydd yr holl staff yn cael eu hatgoffa o'u cyfrifoldebau."