BB Aled: Bandiau pop Cymraeg 'bron yn amhosib'

  • Cyhoeddwyd
bb aled

Mae creu bandiau pop - neu boy a girl bands - llwyddiannus drwy gyfrwng y Gymraeg "bron yn amhosib", yn ôl un o DJs mwyaf adnabyddus Cymru.

Dywedodd Aled Haydn Jones, un o banelwyr y gyfres sioe dalent Wawffactor ar S4C rhwng 2003-2006, ac sydd bellach yn lais cyfarwydd i wrandawyr Radio 1, fod angen llawer o waith marchnata ac arian i helpu i wneud bandiau o'r fath yn llwyddiant.

"Mae bron yn amhosib i Gymru wneud boy neu girl band sydd yn gweithio," meddai wrth Cymru Fyw.

"Mae gymaint yn dod drwy Radio 1, er enghraifft, sydd methu torri drwodd achos does dim digon o sŵn o'u cwmpas nhw. Heb hwnna mae'n mynd i deimlo bach yn wan falle, hyd yn oed os yw'r gerddoriaeth yn ffantastig.

"Gyda bandiau pop mae o fwy am y sŵn sydd o gwmpas y band a bydd hi'n fwy anodd g'neud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg."

Yn ôl Aled, mae'r sefyllfa ariannol yn rwystr i fandiau pop Cymraeg greu effaith.

"Beth fyddai'n ffantastig bydde band bachgen neu merch sy'n g'neud cerddoriaeth Cymraeg a Saesneg sy'n mynd o gwmpas y byd," meddai. "Ond o be' dwi'n glywed does dim sôn am hynny. Does jest dim digon o arian i gadw pobl i fynd.

"I gael band i weithio mae'n rhaid cael sylw gan America neu Awstralia felly mae'n broblem i fandiau yn Lloegr - ma'n mynd i fod yn hyd yn oed yn fwy anodd yn y Gymraeg. Mae'r ochr marchnata a'r arian yn gymaint pwysicach mewn pop."

'Angen bod yn ddewr'

Mae Rhydian Bowen-Phillips, cyn-aelod o'r band Mega, sy'n cael eu hystyried fel un o'r boy bands Cymraeg cyntaf, yn credu bod yna alw am fandiau pop Cymraeg.

"Dwi'n meddwl fod 'na ddiffyg pop Cymraeg yn gyffredinol," meddai.

"Gyda'r SRG (Sin Roc Gymraeg), mae'r enw ei hun yn cyfuno pawb i roc achos mae'n cynnwys y gair. Nes bo' rhywun yn trio, ti byth yn gwbod os oes 'na alw neu beidio. Mae angen bod yn ddewr.

"Fi'n ffan o fandiau fel Candelas a Sŵnami ac ati ond dwi'n credu bod angen rhywbeth arall i adlewyrchu sin yn hytrach na jest bandiau gitâr - mwy o ddawns, mwy o DJs Cymraeg a phop ac ati."