Ysgol newydd yn y Rhyl
- Cyhoeddwyd
Mae carreg filltir bwysig wedi ei chyrraedd yn hanes adeiladu ysgol uwchradd newydd yn y Rhyl wrth i oriadau'r ysgol gael eu trosglwyddo i ofal y prifathro.
Mae'r ysgol uwchradd newydd £25 miliwn wedi cael ei hadeiladu ar gaeau chwarae presennol Ysgol Uwchradd y Rhyl a bydd lle i 1,200 o ddisgyblion yn ogystal â chanolfan ar gyfer 45 o ddisgyblion addysg arbennig o Ysgol Tir Morfa gerllaw.
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Chronfa Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Mae'r allweddi wedi cael eu trosglwyddo yn swyddogol i brifathro'r ysgol yn ystod taith swyddogol o amgylch yr adeilad newydd.
Disgwylir i ddisgyblion o Ysgol Uwchradd y Rhyl ac o Ysgol Tir Morfa i symud i'r adeilad newydd yn ystod mis Ebrill.
Dywedodd Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Y Cyng. Eryl Williams: "Mae'r adeilad newydd yn wych ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn y Rhyl. Fe fydd disgyblion o'r ddwy ysgol yn elwa o'r cyfleusterau modern ac addas ar gyfer yr ugeinfed ganrif ar hugain.
"Mae'r Cyngor yn falch o fod wedi gweithio mor agos â Llywodraeth Cymru, cwmni adeiladu Wilmott Dixon a chynrychiolwyr y ddwy ysgol i gyflwyno prosiect adeilad rhagorol."