Cynghorwyr yn cefnogi cynllun ysgol cyfrwng Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Cynghorwyr Sir Benfro wedi pleidleisio o blaid sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i blant rhwng 3 ac 16 oed ar Ffordd Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Fe bleidleisiodd y cynghorwyr i gyhoeddi rhybudd statudol i gau Ysgol Gymraeg Glan Cleddau yn y dref fel rhan o'r broses.
Bydd darpariaeth chweched dosbarth cyfrwng Cymraeg yn parhau yn Ysgol y Preseli, Crymych.
Yn wreiddiol, roedd swyddogion y cyngor yn ystyried agor ysgol newydd ar safle ysgol Tasker Millward, ac ar ôl hynny, ar safle presennol Syr Thomas Picton.