Pryder bod 'secstio' ar gynnydd ymhlith plant y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae NSPCC Cymru'n rhybuddio am beryglon 'secstio', wedi iddi ddod i'r amlwg fod nifer yr achosion yn ymwneud â delweddau anweddus y mae Heddlu'r Gogledd yn delio â nhw yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
Yn ôl ffigyrau y mae'r elusen wedi eu derbyn gan yr heddlu, dau achos gafodd eu cyfeirio yn 2013, pedwar yn 2014 ond erbyn 2015, fe ddelion nhw â 28 achos.
Roedd y rhan fwyaf o'r achosion - 24 ohonyn nhw - yn ymwneud â phlant 15 oed, tra bod 10 yn ymwneud â phlant 16 ac 17 oed.
Dywedodd Des Mannion, pennaeth gwasanaethau NSPCC Cymru: "Mae'n achos pryder mawr fod mwy o blant yn rhannu delweddau anweddus o'u hunain."
Ychwanegodd: "Er bod y niferoedd yn y gogledd yn gymharol isel, mae'r cynnydd sydyn yn nifer yr achosion y mae'r heddlu yn delio â nhw yn bryder."
Mae'r NSPCC eisiau i Lywodraeth nesaf Cymru gyflwyno cynlluniau i ddarparu gwersi diogelwch ar-lein gorfodol i rybuddio plant am beryglon secstio.
Er i'r rhan fwyaf o'r delweddau gael eu rhannu drwy ffonau symudol, maen nhw hefyd yn cael eu defnyddio drwy ddefnyddio llwyfannau fel Snapchat, Instagram a Facebook.
Ychwanegodd Mr Mannion: "Rydyn ni'n poeni fod plant drwy wneud hyn mewn perygl o gael eu hecsbloitio a'u bwlio.
"Mae angen dysgu plant am beryglon secstio a sut y gallai fod yn andwyol os ydyn nhw'n colli rheolaeth ar ddelwedd."