Rhybuddio disgyblion am beryglon 'secstio'

  • Cyhoeddwyd
Ffonau symudol

Mae'r heddlu yn bwriadu ymweld â phob ysgol yng Nghymru i rybuddio disgyblion am beryglon 'secstio' - sef yr arfer o anfon delweddau anweddus i eraill gyda ffonau symudol neu ar wefannau cymdeithasol.

Mae rhai'n pryderu nad yw pobl ifanc yn deall y gall anfon delweddau rhyw amhriodol olygu eu bod yn torri'r gyfraith.

Daw'r rhybudd ar Ddiwrnod Defnyddio'r We yn Fwy Diogel.

Yn ôl canlyniad arolwg newydd, mae 30% o blant 11-16 oed wedi dioddef ymddygiad cas ar y we yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ac fe wnaeth 75% o bobl ifanc wrthod caniatáu eraill i ymuno gyda'u cyfrif ar-lein.

Edrychodd arolwg ResearchBods ar faint o amser yr oedd pobl ifanc yn ei wario ar y we, gyda 55% yn dweud eu bod yn cyfathrebu gyda'i ffrindiau pennaf sawl gwaith yr awr.

Mae'r heddlu wedi dechrau rhybuddio pobl ifanc am elfennau anghyfreithlon posib i wefannau cymdeithasol a negeseuon ffonau symudol - a'r gobaith ydi ymweld â phob ysgol erbyn diwedd y flwyddyn gyda'r neges "Meddyliwch Cyn Clicio".

'Effaith anferth'

Un heddwas sy'n ymweld ag ysgolion ydi PC Richard Norris o Heddlu De Cymru. Dywedodd y gallai rhannu deunydd anweddus fod yn drosedd ar adegau.

"Gall un clic gael effaith anferth", meddai.

"Gall gael effaith ar swyddi, gyrfa, y cywilydd, neu hyd yn oed rhywun yn niweidio eu hunain dros hyn. Rydym am leihau a stopio hyn".

Disgrifiad o’r llun,

Mae PC Richard Norris yn dweud y gall un clic gael effaith anferth ar fywyd plentyn

Mae elusen yr NSPCC yn rhedeg ymgyrch ar gyfer rhieni plant o wyth i 12 oed.

Dywed yr elusen fod gwaith ymchwil yr elusen yn 2013 wedi dangos fod 40% o bobl ifanc yn eu harddegau wedi creu delwedd neu fideo anweddus.

Mae disgyblion, rhieni ac athrawon yn cyfarfod gwleidyddion yn y Senedd i alw ar ysgolion i ddysgu diogelwch ar y we i ddisgyblion.

Dywed Llywodraeth Cymru ei fod wedi paratoi gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth am y broblem mewn ysgolion ar draws Cymru hefyd.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Tra rydym yn annog pobl ifanc i gofleidio potensial anferthol y we, mae'n hynod bwysig eu bod yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth i wneud hyn yn ddiogel ac yn gyfrifol."