Yr Ymadawiad yn ennill gwobr drama sengl
- Cyhoeddwyd

Mae ffilm Yr Ymadawiad wedi ennill gwobr Drama Sengl yng ngwobrau'r ŵyl cyfryngau Celtaidd yn Dungarvan yn Iwerddon.
Wedi ei hysgrifennu gan Ed Talfan a pherfformiadau gan Mark Lewis Jones ac Annes Elwy, fe gurodd y ffilm restr fer o ddramâu a ffilmiau, gan gynnwys un arall o ddramâu S4C, y Streic a Fi.
Mae'r ffilm, a gafodd ei chynhyrchu gan gwmni Severn Screen mewn cydweithrediad â Boom Pictures a Ffilm Cymru Wales ar gyfer S4C, ar hyn o bryd ar daith sinemâu.
Dywedodd Ed Talfan o gwmni Severn Screen: "Rydym ar ben ein digon yn ennill y wobr hon."