'Ibiza Ibiza' yn 30
- Cyhoeddwyd
Eleni mae un o'r comedïau mwya' eiconig yn hanes ffilmiau Cymru'n dathlu 30 mlynedd. Mae 'Ibiza Ibiza' dal yn hynod o boblogaidd wedi tri degawd, gyda chymeriadau fel Glenys a Rhisiart yn fyw iawn yn y cof.
Bydd y ffilm yn cael ei dangos yn Sinemaes yn yr Eisteddfod Genedlaethol bnawn Sul am 16:00, dolen allanol
• Mwy o'r Eisteddfod Genedlaethol ar BBC Cymru Fyw, dolen allanol
Cafodd Cymru Fyw gyfle i hel atgofion gyda Caryl Parry Jones a 'sgwennodd y sgript ac sy'n serennu yn y ffilm, a dau amlwg arall o'r cast - Siw Hughes ac Emyr Wyn:
'Ibiza Ibiza' yn Ibiza?
"Efallai bod pawb dan yr argraff bo' ni wedi gwneud yr holl waith ffilmio yn Ibiza, ond wnaethon ni ddim," meddai Siw Hughes. "Yr holl waith allanol oedd yn cael ei ffilmio yn Ibiza, ac roeddan ni'n gwneud yr holl waith mewnol yn stiwdios HTV ym Mhontcanna yng Nghaerdydd."
Mae Emyr Wyn yn cofio'r strach o ddechrau ffilmio: "Wedi i ni gyrraedd Ibiza doedd yr offer technegol ddim wedi cyrraedd, achos roedden ni'n hedfan mas ac roedd yr offer yn dod yn y vans ac ati dros wlad a môr.
"Roedd 'na ryw broblem yn customs felly doedd ganddyn ni ddim offer i ffilmio felly gafon ni ychydig ddyddiau o wneud dim byd a chyfle i fwynhau yn San Antonio - ond roedd rhaid i ni weithio'n galetach wedyn pan gyrhaeddodd yr offer."
Roedd teimlad arbennig iawn pan ddechreuodd y camerâu recordio yn ôl Caryl Parry Jones: "Roedd y cyfnod o ffilmio yng Nghaerdydd yn gyfnod hapus tu hwnt hefyd achos roedden ni'n torri rhyw fath o dir newydd ac yn arbrofi lot.
"Roedd 'na lot o waith cynllunio wrth gwrs gan mod i'n chwarae tri cymeriad a Siw yn chwarae dau, ac doedd Chiz (Huw Chiswell) erioed wedi actio o'r blaen.
"Roedd yna lot o elfennau oedd yn dipyn bach o risg, ac o'n i'n feichiog ar y pryd ac wedi mynd pum mis yn cario fy merch, Elan. Roedd o'n gyfnod hynod o hapus ac roedd o'n deimlad bod ni'n gwneud rhywbeth eitha' arbennig."
Apêl y ffilm
Pam fod y ffilm dal mor boblogaidd heddiw? Yn ôl Siw Hughes: "Mae pobl dal yn medru uniaethu gyda'r cymeriadau, ac mae gen Caryl y gallu i 'honio' mewn ar wahanol math o bobl, ac alla'i weld yn syth o edrych ar y sgript pwy 'di'r cymeriadau ma' hi'n greu, lle maen nhw'n dod ac ati.
"Mae 'na drawsdoriad o gymeriadau difyr, digri yn y ffilm ac mae 'na stori garu sydd wastad yn mynd i apelio."
Mae'r stori hefyd yn hollbwysig i Emyr Wyn: "I unrhyw ffilm fod yn llwyddiannus mae'n rhaid iddi dicio nifer o focsys a dwi'n credu bod 'Ibiza Ibiza' yn gwneud hynny. Mae hi'n stori dda, mae cerddoriaeth dda ynddi ac mae 'na gymeriadau lle ti'n teimlo drostyn nhw ag empathi tuag atyn nhw.
"Dyna un o gryfderau Caryl; hyd yn oed os ti ddim yn hoffi rhyw gymeriad mae'n bosib cydymdeimlo gyda nhw ac mae posib uniaethu gyda nhw. Mae'r cyfle i actorion fynd dan groen y cymeriadau ac i roi rhywbeth eu hunain i'r cymeriad.
"Daeth y cynhwysion i gyd at ei gilydd ar y sgrin. Roedd e'n rhywbeth newydd a ffres iawn ar y pryd, ac roedden ni gyd yn dueddol o arbrofi yn y cyfnod yna."
Doedd Caryl ddim yn disgwyl y fath lwyddiant: "Os fysa rhywun wedi gofyn i mi yn 1986 os bydden ni dal yn siarad am y ffilm heddiw mi fyswn i wedi chwerthin yn eu wyneb nhw.
"Ond dwi'n meddwl bod y poblogrwydd yn dod oherwydd ei fod o'n rhywbeth 'da ni ddim yn gwneud yn aml fel Cymry - dydyn ni ddim yn gwneud ffilmiau ysgafn a dramâu feel good. 'Da ni'n dueddol o fod dipyn bach yn drwm, 'da ni'n licio drama drom, tywyll, ac sy'n eitha' trist."
"O'n i'n 26 oed yn 'sgwennu'r ffilm, a dwi'n 58 rŵan a dwi 'di dysgu lot ers hynny. Wrth edrych nôl arni, mae smyglo diemwntau yn dated iawn, ond eto mae o'n fwy 'cydli' na chyffuriau neu arfau.
"Roedd 'na ddechrau, canol a diwedd, ac mae'r stori'n sefyll fyny o ran stori, ond ella bod y rhan yna [smyglo diemwntau] 'chydig yn naïf. Ond ar y pryd ella roedd y byd yn fwy naïf na be' ydi o rŵan, felly mae'n rhaid i chi ei gymryd yn ei gyd-destun amserol."
Prinder ffilmiau Cymraeg
Felly ydy'r diwydiant wedi newid dros y blynyddoedd? Yn ôl Emyr Wyn: "Roedd 'na lot o arbrofi gyda chyfresi a ffilmiau Caryl, wedyn rhaglenni fel 'Torri Gwynt' a 'Teulu'r Mans'. Daeth rhain i gyd yn ystod degawd cynta' y sianel lle roedd 'na gyfle i arbrofi, ac oeddet ti hefyd yn cael y cyfle i fethu.
"Roedd 'na lot o fethiannau yn digwydd yn ystod y cyfnod yna, ond os oedd e'n methu yr adeg yna wel dyna ni, o leia nes di drio, amser symud mlaen at rywbeth arall.
"Mae 'na gyfresi dros y blynyddoedd diwethaf fel 'Dim Byd' a ''Run Sbit' sydd yn cynnig y math o adloniant fyddwn i'n mwynhau ei weld. Fe roedd 'na gyfnod hir iawn ar ddiwedd y 90au a dechrau'r ganrif yma lle doedd fawr ddim yn digwydd o ran comedi, dychan a dynwared, a doedd dim buddsoddiad fel y dylai wedi bod.
"Rhaid meddwl am ystyriaethau ariannol a'r cynulleidfaoedd, achos tan i 'Cnex' ymddangos ychydig flynyddoedd yn ôl doedd 'na ddim byd llawer ers dyddiau 'Pelydr X' a rhaglenni tebyg. Efallai bod angen gofyn pam nad oedd mwy yn cael ei gomisiynu, ac efallai bod diffyg gweledigaeth wedi bod yn ystod rhai cyfnodau. Mae jyst ychydig bach o siom am y peth na'i gyd," ychwanegodd.
"Dwi'n teimlo yn y flwyddyn neu ddwy diwethaf bod yna bethau wedi ymddangos sydd yn codi nghalon i, a dwi'n dweud hyn fel rhywun a oedd yn ymwneud ag S4C yn ystod y dyddiau cynnar - 'Fflat Huw Puw', 'Teulu'r Mans', 'Torri Gwynt' a chyfresi Caryl. Doedd pob rhaglen o'r cyfnod ddim yn llwyddiant wrth gwrs, ond roedd y cyfleon yna i wneud llwyddiannau ac hefyd methu weithiau."
Mae Siw Hughes hefyd yn cydnabod bod arian yn ffactor:
"Mae 'na ddiffyg buddsoddi o ran S4C yn bendant, ond mae ffilm yn gyfrwng eithriadol o ddrud, ac yn yr hinsawdd yma lle mae 'na doriadau 'di digwydd mae'n rhaid cymryd hynny i ystyriaeth.
"Ond mae 'Ibiza Ibiza' wedi hen brofi'i gwerth, ac mae wedi talu ar ei ganfed i bwy bynnag wnaeth fentro 30 mlynedd yn ôl i'w chomisiynu. Dim yn ariannol wrth reswm, ond bod bobl yn gweld bod 'na werth i'r buddsoddiad. Mae 'na ffilm 'C'mon Midffîld' ma' pobl yn mwynhau wrth gwrs, ond yn sicr mae 'na ddiffyg ffilmiau o'r fath yn y Gymraeg."
Mae Caryl yn nodi bod llawer wedi newid ers dyddiau ffilmio 'Ibiza Ibiza':
"Mae'r oes 'di newid, roedd 'na lot fwy o bres o gwmpas yn yr 80au ac yn y 90au, ac mae'r cyfyngiadau ariannol sydd wedi bod ar S4C yn ddiweddar wedi bod yn ddychrynllyd, felly mae'n anodd iawn ar y sianel, yn enwedig wrth ystyried y gystadleuaeth gan yr holl sianeli eraill. Mae'r byd darlledu yng Nghymru wedi newid yn ddramatig dros y 30 mlynedd ddiwethaf.
"Mae yna gomedïau allan yna heddiw, ond bo' ni'n dueddol o gofio hen gomedïau. Ond mae'n lot anoddach rŵan gan fod llai o arian i fuddsoddi mewn cyfresi a ffilmiau."