Carwyn Jones yn galw am wahardd Ken Livingstone
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi galw am ddiarddel Ken Livingstone o'r blaid Lafur am sylwadau a wnaeth yn amddiffyn AS sydd ynghlwm â honiadau'n ymwneud â sylwadau gwrth-Semitaidd.
Mae Mr Livingstone, cyn faer Llundain, nawr wedi ei wahardd wrth i'r blaid ymchwilio.
Mae'r AS Llafur John Mann yn wynebu cerydd am gyhuddo Mr Livingstone o amddiffyn Natsïaeth yn ystod dadl y tu allan i un o stiwdios y BBC.
Roedd yn cyfeirio at sylwadau a wnaeth Mr Livingstone am Adolf Hitler.
Dywedodd Carwyn Jones: "Does dim lle i'r safbwynt sydd gyda Ken. Does dim lle iddo fe dim rhagor yn y blaid. Digon yw digon a dyle fe gael ei dorri allan nawr o'r blaid."
'Ffeithiau'
Dechreuodd y ffrae ar ôl i AS Llafur arall, Naz Shah, gael ei gwahardd gan y blaid am sylwadau a wnaeth am Israel ar wefannau cymdeithasol.
Mewn cyfweliad ddydd Iau, fe wnaeth Mr Livingstone amddiffyn Ms Shah, gan ddweud nad oedd erioed wedi clywed unrhyw sylwadau gwrth-Semitaidd yn y blaid.
Dywedodd mai "polisi Hitler pan enillodd ei etholiad yn 1932 oedd y dylai Iddewon gael eu symud i Israel".
Ychwanegodd bod Hitler yn "cefnogi Seioniaeth" cyn "mynd o'i go a lladd chwe miliwn o Iddewon".
Fe wnaeth Mr Mann gwestiynu sylwadau Mr Livingstone wrth i'r cyn faer gyrraedd stiwdios y BBC yn Llundain.
Yn ddiweddarach, fe wnaeth Mr Livingstone wadu ei fod wedi galw Hitler yn Seionydd, gan ddweud ei fod yn trafod "ffeithiau" hanesyddol.