Lle oeddwn i: Rhys Mwyn a Rhedeg i Paris

  • Cyhoeddwyd
Yr Anhrefn
Disgrifiad o’r llun,

Yr Anhrefn

Mae'r gân eiconig 'Rhedeg i Paris', gafodd ei recordio gan Yr Anhrefn yn 1990, wedi ei rhyddhau'n ddiweddar gan y band Candelas fel anthem BBC Radio Cymru ar gyfer pencampwriaeth Ewro 2016. Yr wythnos hon, mae'n drac yr wythnos ar yr orsaf.

Rhys Mwyn sgwennodd y gân wreiddiol. Bu'n sôn mwy am y cefndir wrth Cymru Fyw:

'Defnyddio celf i herio'r drefn'

Cafodd y gân ei 'sgwennu yn stiwdio Sain, Llandwrog yn 1990. Siôn Sebon a fi 'sgwennodd 'Rhedeg i Paris', ac mae'n rhan o albym 'Dial y Ddraig' ac o'dd hi'n broses rhai wythnosau o 'sgrifennu. Roedden ni'n recordio gyda Dave Goodman, cynhyrchydd cyntaf y Sex Pistols.

Ddaru Goodman 'neud rhywbeth diddorol iawn, sef chwarae'r gân ar gitâr acwstig. Trwy wrando ar y gân yn acwstig, roedden ni'n gallu gweld y trefniant a gweld bod 'na gân dda yma.

Roedden ni wedi bod yn mynd yn ôl ac ymlaen i Baris i berfformio gyda'r Anhrefn ac roedd yr hanes o beth ddigwyddodd yn y ddinas yn mis Mai 1968, sef y gwrthdaro rhwng y myfyrwyr a De Gaulle - odd hwnna wedi'n ysbrydoli ni'n rhannol, achos oedd 'na fudiad celfyddydol sef Situationist International, ac oedd rheiny yn rhan o'r bwrlwm yn 1968 o ddefnyddio celf i herio'r drefn.

Cafon ni ein hysbrydoli gan y neges yma gan y Situationist International wedyn, a dyna lle ddoth y gân. Mae 'na linell ynddi, "defnyddio'r egni o awyr Paris." Be oeddan ni'n trio ei dd'eud oedd bod angen defnyddio'r ysbrydoliaeth yna nôl yng Nghymru. Mae'n gofyn am drawsblannu syniadau'r mudiad o 1968 i Gymru yn 1990 pan gafodd y gân ei 'sgrifennu - i ysbrydoli rhywun i weithredu yng Nghymru.

Roedden ni'n sôn am ddiwylliant a chelf fel ffordd o newid petha' yng Nghymru, yn hytrach na gwleidyddiaeth uniongyrchol. Dyna'r maes rydan ni 'di gweithio ynddo fo fel band.

Roedd 1990 yn flwyddyn brysur i'r Anhrefn, r'on i'n 28 oed ar y pryd a roedden ni'n fand proffesiynol llawn amser yn recordio a theithio. Wnaethon ni dreulio mwy o nosweithiau oddi cartre na wnaethon ni yn cysgu yn ein gwelyau ein hunain y flwyddyn yna.

Dwi'n licio fersiwn Candelas o 'Rhedeg i Paris'. Mae'n braf iawn clywed pobl eraill yn perfformio'r gân, mae'n rhoi mwy o fywyd iddi.

Disgrifiad,

Gwyliwch y Candelas yn perfformio anthem Radio Cymru ar gyfer Ewro 2016.