Euro 2016: Annog cefnogwyr pêl droed i siarad Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae'r Mentrau Iaith wedi cychwyn ymgyrch i annog mwy o bobl i droi at y Gymraeg yn ystod pencampwriaeth Euro 2016 ac i ddiolch i'r tîm pêl droed cenedlaethol am godi proffil yr iaith.
'Y Bêl' ydy enw'r ymgyrch ac bydd cyfle i gefnogwyr ar draws Cymru lofnodi peli a recordio neges o gefnogaeth i'r garfan.
Bydd y rhain wedyn yn cael eu cyflwyno i'r tîm gyda'r fideos yn cael eu rhannu ar wefannau cymdeithasol ac mewn digwyddiadau cyhoeddus.
Y nod hefyd, meddai'r mentrau, ydy bod y bêl yn cael ei phasio o berson i berson a bod hyn yn symbol o bwysigrwydd trosglwyddo'r Gymraeg i bobl eraill.
Dyma'r tro cyntaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau ers 1958.
Dywedodd Adam Jones o'r Mentrau Iaith Cymru: "Mae'r Mentrau Iaith yn fudiadau sy'n gweithio yn ein cymunedau, a'n bwriad trwy lansio'r ymgyrch hon yw codi proffil gwaith y Mentrau i gynulleidfa ehangach trwy ddiolch i'r FAW am eu hymrwymiad i'r Gymraeg yn ogystal ag annog mwy o bobl i droi at y Gymraeg wrth gefnogi'r bois.
"Rydym dros y misoedd diwethaf, wedi gweld cryn dipyn o amlygrwydd yn cael ei roi i'r Gymraeg, boed ar grysau chwaraewyr, ar ddeunydd hyrwyddo'r FAW neu mewn cyfweliadau yn dilyn gemau rhyngwladol.
"Mae hyn oll yn help wrth godi proffil ac ymwybyddiaeth y Gymraeg, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd, a thrwy lansio'r ymgyrch hon, hoffwn ddiolch i'r tîm ac i'r FAW am sbarduno hyder a balchder pobl yn eu Cymreictod yn ogystal â galw ar siaradwyr Cymraeg ym mhob cwr o Gymru, i gefnogi eu tîm cenedlaethol yn Gymraeg."
Mae'r cyn-chwaraewr a'r gôl-geidwad rhyngwladol, Dai Davies, yn cefnogi'r ymgyrch gan y Mentrau Iaith.
"Mae gweld Cymru, am y tro cyntaf ers cyfnod hir iawn, mewn pencampwriaeth ryngwladol yn rhywbeth i bob un ohonom ddathlu," meddai.
"Fel Cymry, mae dathlu llwyddiant, yn enwedig yn y maes pêl-droed yn brofiad diarth iawn, ond y tro hwn, mae gennym gyfle go iawn i godi statws Cymru'n rhyngwladol a thrwy hynny, codi hyder a balchder pobl yn y Gymraeg.
"Fel chwaraewr pêl-droed, ac fel sylwebydd, mae'r gallu i siarad Cymraeg wedi bod yn fanteisiol iawn i mi yn ystod fy ngyrfa."