Cau banciau: Cymru ymysg y llefydd gwaethaf yn y DU

  • Cyhoeddwyd
BanciauFfynhonnell y llun, PA

Mae hanner yr ardaloedd yn y DU sydd wedi gweld y nifer fwyaf o fanciau yn cau yng Nghymru, yn ôl ymchwil newydd.

Yn ôl ymchwil gan raglen BBC Breakfast cafodd dros 600 o fanciau eu cau dros y DU, gyda Chymru, Yr Alban a rhannau o dde-orllewin Lloegr wedi eu heffeithio waethaf.

Mae pump o'r 10 ardal awdurdod lleol sydd wedi colli'r nifer fwyaf o fanciau yng Nghymru; ym Mhowys, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych a Sir Gaerfyrddin.

Mae banciau sydd wedi cau rhai canghennau yn dweud eu bod yn buddsoddi mewn safleoedd sy'n parhau ar agor, gan wella gwasanaethau.

Cafodd cyfanswm o 610 o fanciau eu cau rhwng Ebrill 2015 ac Ebrill 2016 yn ôl y data, sy'n cynnwys chwech o'r banciau mwyaf ym Mhrydain.

RBS wnaeth gau'r nifer fwyaf o fanciau - 166 - ac yna HSBC, wnaeth gau 146 o ganghennau.

Ardaloedd gwledig gafodd eu heffeithio waethaf, sy'n cael ei adlewyrchu yn yr ardaloedd o Gymru gollodd y nifer fwyaf o fanciau.

Cafodd nifer fawr o fanciau eu cau hefyd mewn trefi lle mae llawer o bobl yn teithio i ddinasoedd neu drefi mwy i weithio, ac yn aml yn mynd i'r banc yn ystod oriau gwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Barclays bod y cwmni yn buddsoddi i wella gwasanaethau

Yn ôl y banciau, cafodd nifer o'r canghennau eu huno gyda changhennau agos eraill, a'r rheswm dros gau banciau yn gyfan gwbl yw'r newid yn y ffordd mae pobl yn defnyddio eu gwasanaethau.

Dywedodd RBS bod y nifer o achosion o bobl yn mynd i mewn i ganghennau wedi gostwng o 43% ers 2010, tra bod 56% o gwsmeriaid yn defnyddio gwasanaethau bancio ar-lein.

Dywedodd llefarydd ar ran HSBC: "Mae'r ffordd rydyn ni'n defnyddio banciau yn newid yn sydyn iawn, a gyda chynnydd yn y defnydd o wasanaethau ar-lein a ffôn yn y blynyddoedd diwethaf, mae defnydd canghennau wedi gostwng yn sylweddol."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Barclays eu bod yn "parhau i ddatblygu siâp a maint ein rhwydwaith o fanciau, yn ogystal â gwella a buddsoddi yn y profiad yn ein canghennau".

'Angen asesu'r effaith'

Ond mae ymgyrchwyr yn dweud bod colli banciau yn cael effaith fawr ar gymunedau.

Dywedodd llefarydd ar ran elusen AgeUK bod "dibyniaeth ar ddulliau ar-lein o fancio yn anodd i lawer ac mae cau banciau yn gallu gadael pobl hyn ar eu pen eu hunain".

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi galw ar fanciau i ddangos "tystiolaeth gan bob banc ar y stryd fawr bod ymgynghori gyda chwmnïau bach yn digwydd os ydyn nhw'n ystyried cau cangen, er mwyn asesu'r effaith posib".