Ateb y Galw: Arfon Haines Davies

  • Cyhoeddwyd
arfon

Y cyflwynydd Arfon Haines Davies sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Elinor Jones yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Yr atgof cyntaf sy gen i ydi mynd fin nos i stydi fy nhad a oedd yn weinidog yn Llandeilo ar y pryd, edrych allan o'r ffenast a gweld lleuad llawn yn disgleirio. Dwi hefyd yn cofio bod yn y capel yn Llandeilo a gweld fy nhad yn y pulpud a jyst ddim yn gallu dyfalu pam a sut roedd o mor uchel i fyny!

Pwy oeddet ti'n ffansio pan yn ieuengach?

Nia Jones (ysgol gynradd ac uwchradd!) ond d'oedd gen i ddim gobaith! Hollol allan o fy league! Dwi'n amau y buaswn i wedi cael gwell siawns gyda fy ail ddewis sef yr actores Hayley Mills!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n credu mae'r amser nes i syrthio i gysgu yn ystod un o gyngherddau ysgol gynradd fy merch Catrin. Ond yn anffodus roedd o'n fwy o embaras iddi hi ac yn dal i fod, gyda nifer o'i ffrindiau yn barod i'w hatgoffa!

Disgrifiad o’r llun,

Paid â chael nap yn ystod y Cadeirio Arfon!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi wastad wedi bod yn berson eitha dagreuol ac ma gen i gywilydd dweud mi ges i ddeigryn yn fy llygaid wrth wylio 'Britain's Got Talent' yr wythnos diwetha. Ma' ffilmiau hefyd yn gallu cael yr un effaith yn enwedig y ffilm 'Up'... os 'da chi heb ei gweld... clasur! Ond gwell cael y bocs Kleenex yn handi!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gadael y goleuadau ymlaen yn y tŷ.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Gan fy mod yn fab i weinidog Wesle a felly wedi byw yn Nhreharis, Llandeilo, Aberystwyth, Treffynnon, Bae Colwyn a rwan yn byw yng Nghaerdydd dwi am ddewis rhywle lle dwi heb fyw ynddo sef Aberdyfi. Wrth fy modd ymweld â'r lle, yn enwedig ardal Penhelig.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Led Zeppelin, Earls Court 1975.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Arfon yn un o hoelion wyth adran gyflwyno HTV

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Cyfeillgar, caredig (gobeithio!), diog (yn bendant!).

Beth yw dy hoff lyfr?

Newydd orffen darllen 'Llyfr Gwyn' a wedi cael mwynhad mawr... colled aruthrol ar ei ôl. Ar hyn o bryd yn darllen cofiant am Walt Disney, ond yn sicr mi fyddai 'William Jones' gan T Rowland Hughes yn dod yn uchel iawn ar restr fy hoff lyfrau.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Crocs a weithiau crocs efo socs!!!!!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Batman v Superman' (braidd yn siomedig).

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Will Ferrell… Ron "Haines" Burgundy!

Disgrifiad o’r llun,

Arfon Haines Davies a'i ddynwarediad anhygoel o Ron Burgundy

Dy hoff albwm?

Wrth fy modd yn gwrando ar recordiau. Dewis anodd! 'Songs for Swinging Lovers' Frank Sinatra, 'Pet Sounds' Beach Boys ac yn sicr mi fyddai 'Songs in the Key of Life' Stevie Wonder ar y rhestr.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Prif gwrs... Sewin neu stêc o siop Mr Rees Arberth!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

Roger Federer neu Eric Clapton... y broblem sy' gen i ydi fy mod i'n chwara' gitar fel Federer ac yn chwara' tenis fel Clapton!!

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Heather Jones