Llafur a Phlaid Cymru yn cynnal trafodaethau 'positif'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones a Leanne Wood

Mae Llafur a Phlaid Cymru yn dweud fod y trafodaethau rhyngddyn nhw ynglŷn â dewis Prif Weinidog nawr ar ben - a bod "pethau wedi symud yn eu blaen yn dda."

Fore Mawrth fe fydd arweinyddiaeth y ddwy blaid yn cyflwyno'r cynigion ynglŷn â'r cam nesaf i'w grwpiau.

Yn ôl y datganiad, mae'r trafodaethau dros y dyddiau diwethaf wedi bod yn gadarnhaol ac mae lle i gredu y bydd y Cynulliad yn ail gwrdd ddydd Mercher er mwyn enwebu Prif Weinidog.

Mae gan Aelodau'r Cynulliad tan 1 Mehefin i benodi Prif Weinidog neu bydd angen cynnal etholiad arall.

Mae gan Lafur 29 aelod yn y Cynulliad newydd, gyda chyfanswm y gwrthbleidiau yn 31.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth 29 gefnogi Carwyn Jones o'r blaid Lafur i fod yn brif weinidog, gyda 29 o blaid arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Y gred yw y bydd Llafur yn ffurfio llywodraeth leiafrifol.