Kirsty Williams yn cael cynnig swydd cabinet Llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
CabinetFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Mae Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, wedi cael cynnig swydd yng nghabinet llywodraeth Carwyn Jones.

Mae Mr Jones wedi cynnig y portffolio addysg i Ms Williams.

Mae Kirsty Williams wedi derbyn cynnig y Prif Weinidog, cyn belled y bydd ei phlaid yn cymeradwyo'r penderfyniad.

Mae Vaughan Gething wedi ei benodi'n Ysgrifennydd Iechyd, Ken Skates yn Ysgrifennydd dros yr Economi a Trafnidiaeth ac mae Mark Drakeford yn newid ei swydd i fod yn Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol.

Yr amgylchedd a materion gwledig fydd portffolio Lesley Griffiths a bydd Carl Sargeant yn gyfrifol am gymunedau.

AC Blaenau Gwent, Alun Davies, fydd yn gyfrifol am y Gymraeg a dysgu gydol oes, swydd y tu allan i'r cabinet.

Mae Julie James a Rebecca Evans hefyd yn parhau fel dirpwyon.

Y rhestr yn llawn yw:

  • Ken Skates - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

  • Vaughan Gething - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

  • Mark Drakeford - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

  • Kirsty Williams - Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

  • Lesley Griffiths - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

  • Carl Sargeant - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

  • Jane Hutt - Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

  • Julie James - Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

  • Alun Davies - Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

  • Rebecca Evans - Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

'Symud Cymru ymlaen'

Wedi'r cyhoeddiad, dywedodd Carwyn Jones: "Rydw i wrth fy modd i gyhoeddi'r tîm fydd yn symud Cymru ymlaen dros y pum mlynedd nesaf."

Ychwanegodd: "Rydw i'n hyderus bod gan y tîm yma'r dalent, y weledigaeth a'r syniadau i greu cyfle i ni gyd, ac adeiladu Cymru sy'n unedig, wedi'i chysylltu ac sy'n gynaliadwy, nawr ac i genedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd ei fod wedi cynnig swydd i Ms Williams oherwydd "ei phrofiad ac mae hi'n un o wleidyddion mwyaf galluog y Cynulliad".

"Mae rhannau o'r portffolio addysg lle rydyn ni wedi cael trafodaethau adeiladol, ond nid yw'r gwahoddiad yma i ymuno a'r cabinet yn gytundeb o glymblaid, mae'r ddau ohonom yn glir iawn am hynny, ac ein pleidiau," meddai.

Ymateb

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am y cabinet, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, fod y cabinet yn llawn o "hen wynebau Llafur" ac na fyddai'r penodiadau'n cynnig llawer o obaith i bleidleiswyr am lywodraethant llwyddianus o'u gwlad dros y pum mlynedd nesaf.

Ychwanegodd fod penodiad Kirsty Williams yn dangos "pa mor ystwyth oedd ei egwyddorion" gan ei bod wedi dadlau yn erbyn Llafur am y pum mlynedd diwethaf.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Mae pobl yn haeddu llywodraeth fydd yn cynnig atebion iddyn nhw, ac rwy'n gobeithio y bydd y cabinet newydd yn gallu cynnig gwelliannau go iawn i fywyd pobl mewn ffordd y mae llywodraethau Llafur blaenorol wedi methu a gwneud.

"Ddoe fe wnes i rybuddio'r prif weinidog newydd na fyddai gan Blaid Cymru ofn sefyll i fynny i Lafur os bydd agwedd hunanfoddhaol y blaid yn parhau."