Awdurdodau'n cyflwyno 273 o heriau i'r Safonau Iaith
- Cyhoeddwyd
Roedd fersiwn gynharach o'r erthygl hon yn cynnwys amcangyfrif o gost posib cyflwyno'r Safonau Iaith y bore 'ma, fel rhagflas o rifyn o raglen Week In Week Out. Cafodd yr amcangyfrif ei seilio ar ddata sydd ddim yn gadarn. Hoffem ymddiheuro am y camgymeriad.
Mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cyflwyno cyfanswm o 273 o heriau i'r Safonau Iaith sydd wedi cael eu gosod gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Cyngor Castell-nedd Port Talbot sydd wedi herio'r nifer uchaf, sef 54.
Dywedodd y cynghorydd lleol Alun Llewelyn, yng Nghastell-nedd Port Talbot: "Does neb eisiau clywed bod y cyngor sir wedi herio mwy o safonau nag unrhyw gyngor arall, ond dwi'n credu bod angen i'r Comisiynydd, wrth ystyried yr heriau hyn, edrych a ydyn nhw'n rhesymol a hefyd gwirio a yw cynghorau sir eraill hefyd mewn gwirionedd yn gallu cyrraedd y safonau yn hytrach na dim ond ticio bocsys.
"Mae hi'n bwysig ein bod ni'n gallu gweithredu'r rhain mewn gwirionedd."
Yn ôl Alun Davies, y gweiniodog yn Llywodraeth cymru sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg, mae angen sicrhau lle i'r Gymraeg ym mhob rhan o gymdeithas: "Mae 'na o hyd drafodaethau rhwng llywodraeth ac awdurdodau sut i gael mynediad i wasanaethau Cymraeg.
'Diffyg arweinyddiaeth'
Dywedodd Mr Llewelyn ei fod yn credu bod mwy y gallai Cyngor CNPT fod wedi ei wneud i gydymffurfio â'r safonau.
"Dwi'n credu bod 'na ddiffyg dychymyg wedi bod yn hanesyddol yng Nghastell-nedd Port Talbot a diffyg arweinyddiaeth wleidyddol ynglŷn â mabwysiadu cynllun iaith yn y lle cyntaf, a bellach y Safonau," meddai.
"Castell-nedd Port Talbot yw un o'r siroedd mwyaf amrywiol yn ieithyddol.
"Mae 'na rai wardiau lle does prin neb o gwbwl yn siarad Cymraeg, ac yna yng ngorllewin y sir mae rhai o'r wardiau fel Brynaman, Gwauncaegurwen, Ystalyfera a Chwmllynfell sydd â'r ganran uchaf yng Nghymru o siaradwyr Cymraeg.
"Felly mae 'na gyfrifoldeb ar y cyngor sir i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion siaradwyr Cymraeg a hefyd i wneud llawer mwy i hybu dyfodol yr iaith yn ein sir ni."
Herio'r safonau
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot eu bod wedi cyflwyno eu hapêl, gan gynnwys tystiolaeth pam eu bod yn credu bod y safonau sydd wedi eu herio yn afresymol neu'n anghymesur.
Maen nhw'n parhau i aros am ymateb gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
Mae'r cyngor yn derbyn bod y rhan fwyaf o'r safonau yn rhesymol, ond mae'n credu nad yw rhai eraill yn ymarferol i'w cyflawni, neu'n fforddiadwy pan fydd y gost yn cael ei osod yn erbyn y lefel debygol o alw.
Maen nhw hefyd yn credu bod rhai o'r safonau o bosib yn anghyson ag amcanion y cyngor mewn "Ardaloedd Ieithyddol Sensitif".
Mae safbwynt y cyngor yn cael cefnogaeth unfrydol yr holl grwpiau gwleidyddol ar yr awdurdod.
176 o safonau
Pwrpas Safon yw egluro sut mae gwahanol sefydliadau yn defnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd, i'w gwneud hi'n haws i siaradwyr Cymraeg wybod pa wasanaethau mae modd eu derbyn yn y Gymraeg.
Ar hyn o bryd mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru, cynghorau sir, a pharciau cenedlaethol ddilyn y 176 o safonau.
Maen nhw'n cynnwys gwasanaethau fel derbyn gohebiaeth yn y Gymraeg yr un pryd â'r Saesneg, a chynnig dosbarthiadau addysgol, fel nofio, yn y Gymraeg os yw ar gael yn y Saesneg.
Fe gysylltodd BBC Cymru â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg am ymateb, ond gan fod hawl statudol i herio un neu fwy o'r safonau, a bod y Comisiynydd yn delio â'r ceisiadau hynny ar hyn o bryd, fe ddywedodd y swyddfa ei bod hi'n amhriodol iddi wneud sylw.
Ar raglen BBC Radio Cymru y Post Cyntaf fore dydd Mawrth, rhybuddiodd John Davies, cyn-arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, nad yw'r un rheolau'n mynd i weithio ym mhob awdurdod: "Be' sy'n mynd i weithio yng nghadarnleoedd yr iaith Gymraeg, dyw hynny ddim yn awgrym bod e'n mynd i weithio ym Mynwy neu Sir y Fflint neu hyd yn oed, yn rhannol, yn anffodus, mewn ardal fel Sir Benfro chwaith."
"Dy' chi ddim gwell o greu rheole sy bron â rhyw lais gwag iddyn nhw, o ran gweithredu nhw mewn ardaloedd lle, yn anffodus iawn, ma'r iaith Gymraeg ddim yn amlwg iawn ym mywyd beunyddiol pobol."
"Ma' unrhyw gyngor yn cael ei yrru gan y bobol ma nhw'n wasanaethu, mewn siroedd lle mae'n amlwg bod yr alwad ddim mor angenrheidiol. Ma' rhaid i chi fod yn rhesymol i ganiatáu i'r cynghore hynny yn naturiol i hybu ac i ddatblygu'r iaith, ond dy chi ddim gwell o wthio polisie a rheole ar draws y cynghore hynny pam bo nhw ddim yn ymarferol ym mywyd beunyddiol pobol."
"Dyw rheole ddim o reidrwydd yn rhoi'r canlyniad cywir i chi. Be sy'n rhoi'r canlyniad mwya' gwerthfawr ag effeithiol i chi yw cwrdd â gofynion pobol, a thrwy hynny, datblygu ethos a phwyslais yr iaith Gymraeg, nid trwy wthio rheole ar gynghore."
'Sut i weithredu?'
Hefyd ar y Post Cyntaf, dywedodd Alun Davies, y gweiniodog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg, fod angen sicrhau lle i'r Gymraeg ym mhob rhan o gymdeithas: "Mae 'na o hyd drafodaethau rhwng llywodraeth ac awdurdodau sut i gael mynediad i wasanaethau Cymraeg.
"Fel gweinidog, byddaf yn sicrhau y byddwn i gyd yn defnyddio'r Gymraeg lle bynnag yng Nghymru a lle bynnag ydan ni'n byw. Fe fydd y ffordd o wneud hyn yn wahanol yng Ngwynedd ac yn fy etholaeth i ym Mlaenau Gwent. Ond y cwestiwn yw sut i'w weithredu.
"Mae angen i ni sicrhau dyfodol i'r iaith. Mae angen sicrhau lle'r Gymraeg ym mhob rhan o'n cymdeithas. Ond Sut? Mae angen trafod, a bod gan y Gymraeg le o fewn cymdeithas, a dwi am i'r Llywodraeth gydweithio efo awdurodau, cyrff cyhoeddus a Chomisiynydd y Gymraeg, ond yr un amcan a'r un weledigaeth sydd 'na, gan bod 'na gytundeb ar draws pawb."
Yn y cyfamser, mae Dirprwy Arweinydd Cyngor Torfaen, Anthony Hunt, yn dweud ei fod wedi synnu darganfod y gallai'r awdurdod orfod gwario £868,000 mewn cyfnod o doriadau.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, ni ddylai'r gost fod yn rhy uchel os yw'r cynghorau wedi dilyn cynlluniau iaith Gymraeg yn y blynyddoedd diwethaf.