Velothon Cymru: Miloedd o seiclwyr mewn ras 140km

  • Cyhoeddwyd
Velothon

Mae miloedd o seiclwyr wedi bod ar ffyrdd de Cymru ddydd Sul wrth i ras Velothon Cymru yn cael ei chynnal.

Roedd disgwyl i 12,000 o seiclwyr amatur ddechrau'r llwybr 140km o Gaerdydd, fydd yn teithio drwy Gasnewydd, Bannau Brycheiniog, Pont-y-pwl, Trecelyn a Chaerffili cyn dychwelyd i'r brifddinas.

Wedi'r ras amatur, dechreuodd y cystadleuwyr proffesiynol y ras 194km.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ras amatur yn dilyn llwybr 140km drwy'r de ddwyrain

Mae'r trefnwyr wedi gwneud newidiadau i'r digwyddiad eleni wedi beirniadaeth gan rai bod y ras wedi effeithio ar fusnesau a bod diffyg gwybodaeth ar gael.

Yn 2015, roedd dewis o ddau lwybr i'r cystadleuwyr amatur, ond bellach dim ond un, 140km, sydd ar gael.

Roedd nifer o ffyrdd ar gau drwy gydol y digwyddiad, mae'r manylion llawn ar wefan Velothon Cymru, dolen allanol.

Roedd rhai busnesau ac Aelodau Seneddol wedi beirniadu'r digwyddiad yn 2015.

Honnodd rhai bod y ras wedi achosi colled ariannol i fusnesau a bod pobl yn teimlo'n gaeth i'w cartrefi oherwydd bod ffydd ar gau.

Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw y bydd hyd at 12,000 o gystadleuwyr yn cymryd rhan

Mae'r trefnwyr yn dweud bod gwersi wedi eu dysgu, a gan bod llawer o gystadleuwyr yn dod o du allan i Gymru, maen nhw'n obeithiol bod busnesau lleol yn elwa.

Dywedodd prif weithredwr Run4Wales, un o'r trefnwyr, Matt Newman: "Rydyn ni eisiau i dde Cymru gyfan deimlo budd Velothon Cymru a gyda bron i hanner o'r dechreuwyr yn dod o wledydd eraill ym Mhrydain, rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn hwb i fusnesau ar hyd y llwybr ac ardaloedd cyfagos."