Taith wib o amgylch y Maes

  • Cyhoeddwyd

Ydych chi'n teimlo ar goll ar faes yr Eisteddfod? Neu'n methu deall beth sy'n digwydd yng ngwahanol gorneli'r Maes a'r pebyll di-ri?

Peidiwch â phoeni - rydyn ni wrth law! Ymunwch â ni am daith wib arbennig o amgylch y Maes, er mwyn i chi wybod yn union be' 'di' be' cyn i chi gyrraedd y Maes ei hun...

Canolfan Ymwelwyr

Disgrifiad o’r llun,

Mae croeso cynnes i bawb!

Croeso i'r Eisteddfod! Wrth i chi gyrraedd y Ganolfan Ymwelwyr bydd cyfle i chi dderbyn gwybodaeth a chael cymorth gan y staff tu ôl i'r ddesg a'r criw 'Yma i Helpu' yn eu crysau-t arbennig.

Os nad ydych chi wedi bod i'r Eisteddfod o'r blaen, peidiwch â phoeni! Mae teithiau tywys dwyieithog a rhai penodol ar gyfer dysgwyr ar gael bob dydd ar y Maes.

Y Pafiliwn

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pafiliwn 'Evolution' yn dathlu ei ben-blwydd yn flwydd oed eleni!

Gallwch ddod mewn i'r Pafiliwn yn ystod y dydd yn rhad ac am ddim a bydd y drysau cefn ar agor drwy'r amser. Dyma'r lleoliad ar gyfer prif seremonïau'r ŵyl fel y Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio. Maen nhw ymysg digwyddiadau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod - felly cofiwch gymryd eich sedd mewn da bryd.

Bwyd a Diod

Disgrifiad o’r llun,

Cewch dorri syched yn y Bar Gwyrdd... a Bar Syched

Mae 'na ddigon o ddewis o fwyd a diod ar y Maes. Cewch bob math o fwydydd stryd yn y Pentref Bwyd, gyda rhywbeth i bawb, o brydau cartref Cymreig, i fwyd fegan, Mecsicanaidd, Indiaidd a llawer mwy yn ogystal â bwyty trwyddedig yr Eisteddfod, Pl@iad.

Mae Bar Syched yn gweini cwrw, seidr a gwinoedd Cymreig ac mae'r ddau brif far wedi'u lleoli'n agos at Lwyfan y Maes felly gallwch fwynhau diod wrth wrando ar y perfformiadau.

Llwyfan y Maes

Ffynhonnell y llun, keith morris
Disgrifiad o’r llun,

Cyfle i wrando ar fand neu ddau dros ginio - hyfryd

Lleolir Llwyfan y Maes wrth ymyl y Pentref Bwyd a Bar Syched. Yma gallwch fwynhau cymysgedd eclectig o berfformiadau byw o 12pm tan yn hwyr. Yn arbennig ar gyfer y plant lleiaf, bydd Sioeau Cyw i'w mwynhau drwy gydol yr wythnos ac mi fydd Brwydr y Bandiau Maes B nos Fercher rhwng 4pm-8pm. Uchafbwynt eleni, wrth gwrs, yw perfformiad Eden ar y nos Wener.

Maes B

Disgrifiad o’r llun,

Dydy Maes B ddim yn bell o'r prif faes - dim esgus i'r ieuenctid beidio profi ychydig o ddiwylliant felly

Dyma frawd bach swyddogol yr Eisteddfod - ac eleni mae'n dathlu ei benblwydd yn 20 oed! Cynhelir Maes B, dolen allanol rhwng dydd Mercher 9 Awst a dydd Sadwrn 12 Awst. Yma y daw pobl ifanc i wersylla ac i fwynhau perfformiadau gan dros 20 o brif fandiau Cymru. Mae tocyn wythnos Maes B yn cynnwys mynediad i'r Maes, mynediad i'r holl gigs a gwersylla am y cyfnod.

Caffi Maes B

Disgrifiad o’r llun,

Cerddoriaeth mewn tîpi ar ôl noson hwyr... beth well?

Nid lle i bobl 'ifanc' yn unig yw Caffi Maes B. Mae'n lle i ddod i fwynhau cerddoriaeth gyfoes, cymryd rhan mewn gweithdai ac ymlacio mewn tîpis braf ar faes y Brifwyl. Bydd gwahanol ddigwyddiadau yno yn ystod yr wythnos, yn cynnwys gweithdai ukulele, sesiynau comedi, sgyrsiau a chyfweliadau yn ogystal â gigs acwstig gan rai o hoff fandiau Cymru.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Disgrifiad o’r llun,

Cyfle i ddysgu rhywbeth - dim jest canu a dawnsio ydy'r Steddfod, 'chi

Nid lle i blant a gîcs yn unig! Dyma un o leoliadau mwyaf poblogaidd y Maes ac mae'n ferw o weithgareddau ac arddangosfeydd gwyddonol a thechnolegol drwy gydol yr wythnos - ac eleni, y prif thema yw ynni.

Y Tŷ Gwerin

Yurt mawr yw'r Tŷ Gwerin. Mae'n lle llawn hwyl, canu a dawnsio ac mae'r rhaglen yn cynnwys perfformiadau gan rai o brif artistiaid y sîn werin gyfoes, trafodaethau, gweithgareddau hwyliog i blant a'r enwog Stomp Cerdd Dant.

Pentref Llên

Disgrifiad o’r llun,

Y Pentref Llên: Llecyn gwych i deimlo'r Awen

Dyma ganolbwynt llenyddol y Maes i bob pwrpas ac mae'r arlwy'n amrywio o sesiynau trafod i ddigwyddiadau blynyddol enwog sy'n cynnwys yr Ymryson a'r Stomp.

  • Mae'r Babell Lên yn sicr o apelio at unrhyw un sydd â diddordeb ym maes llenyddiaeth ac fel arfer mae dan ei sang. Bydd y beirdd yn teimlo'n fwy clud eleni, gan eu bod wedi cael pabell newydd sbon.

  • Awyrgylch mwy ymlaciol fyth sydd i Lwyfan y Llannerch - perfformiadau, comedi, a phicnic cerddoriaeth a barddoniaeth bob amser cinio.

  • Heb anghofio Gŵyl Llên Plant, wrth gwrs - digon o weithgareddau a darlleniadau hwyliog ar gyfer cynulleidfa ifancach!

Pentref Drama

Disgrifiad o’r llun,

Cyfle i weld dramâu a pherfformiadau gan actorion proffesiynol ac amatur, fel ei gilydd

Y Pentref Drama yw canolbwynt yr holl weithgareddau drama sydd yn mynd yn eu blaen yn ystod yr ŵyl. Mae Theatr Genedlaethol Cymru'n cydweithio gyda'r Eisteddfod i lunio rhaglen y Pentref Drama.

  • Yn Theatr y Maes bydd perfformiadau gan gwmnïau theatr proffesiynol ac ambell i gystadleuaeth lle caiff actorion amatur y cyfle i droedio'r llwyfan.

  • Dewch i'r Cwt Drama i brofi dramâu, darlleniadau a cherddoriaeth amrywiol.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd digon o olygfeydd fel hyn i'w gweld wrth i berfformwyr Theatr Stryd grwydro'r Maes

  • Mae Caffi Theatr yn ardal i bobl ddod at ei gilydd, neu gwrdd am baned mewn awyrgylch theatr. Dyma hefyd yw'r lle i brynu tocynnau i'r perfformiadau gwahanol.

  • Yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf y llynedd, mae'r Sinemaes yn ei ôl, mewn cydweithrediad â BAFTA Cymru. Drwy gydol yr wythnos ceir rhaglen lawn o ddangosiadau o ffilmiau a gweithdai, ac maen nhw hyd yn oed yn darparu'r popcorn!

  • Bydd Theatr Stryd yn cael ei gynnal mewn amrywiol leoliadau o amgylch y Maes, gyda chymeriadau gwych a gwallgof yn crwydro'r lle. Beth am roi cynnig ar sgiliau syrcas neu reidio'r beic disgo i ddathlu pen-blwydd Maes B yn 20 oed?!

Maes D - Pabell y Dysgwyr

Disgrifiad o’r llun,

Dewch i gloncio'n Gymraeg ym Maes D

Maes D yw'r lle i fynd er mwyn ymarfer eich Cymraeg. Bydd digwyddiadau, perfformiadau a chyflwyniadau gwahanol yno drwy gydol yr wythnos, ynghyd â rhywle i gael paned a chlonc anffurfiol. Ewch yno - mae pawb yn glên!

Y Lle Celf

Disgrifiad o’r llun,

Bydd digon i'ch diddanu a'ch ysbrydoli yn Y Lle Celf

Dyma ddathliad cenedlaethol o'r celfyddydau gweledol a phensaernïaeth yng Nghymru. Un o'r adeiladau mwyaf poblogaidd ar y Maes, mae'n denu hyd at 40,000 o ymwelwyr yn ystod yr wythnos.

Mae'r Arddangosfa Agored yn dangos gwaith gan artistiaid newydd a chydnabyddedig, wedi'u dethol gan banel annibynnol. Bydd yna hefyd arddangosfa arbennig o waith yr artist Edrica Huws o Talwrn, Ynys Môn, fu farw yn 1999, a gweithdy â gwneuthurwr Cadair eleni, Rhodri Owen.

Disgrifiad o’r llun,

Ond cofiwch, bydd digon o bobl, a mapiau, wrth law i'ch helpu wrth grwydro'r Maes!