Leighton Andrews ddim am sefyll eto yn y Rhondda

  • Cyhoeddwyd
Leighton Andrews

Ni fydd cyn-Aelod Cynulliad y Rhondda, Leighton Andrews yn ceisio am enwebiad Llafur i'r sedd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2021.

Dywedodd Mr Andrews, gollodd y sedd i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn yr etholiad eleni, ei bod yn amser "dewis ymgeisydd newydd ar gyfer 2021".

Cyn colli'r sedd, roedd Mr Andrews wedi bod yn AC ers 2003, ac roedd wedi cael sawl swydd weinidogol yn y llywodraeth.

"Mae wedi bod yn fraint cynrychioli'r Rhondda yn y Cynulliad ers 2003," meddai.

"Ond rwy'n meddwl bod angen i'r blaid Lafur yn y Rhondda adlewyrchu ar y canlyniad cyn symud i ddewis ymgeisydd newydd yn 2021."

Dywedodd ei fod yn "falch iawn o'r hyn rydw i wedi ei gyflawni fel gweinidog mewn llywodraethau Llafur" a'i fod yn awyddus i "ystyried nawr sut y gallaf gyfrannu i Gymru yn y dyfodol".

Ychwanegodd: "Mae llawer o wersi i'w dysgu i Lafur wedi canlyniadau'r Rhondda ac etholaethau eraill yn y cymoedd ym mis Mai. Rydw i'n bwriadu cyfrannu i'r broses yna."