Apêl i nofwyr gan Gymdeithas y Bad Achub yr RNLI

  • Cyhoeddwyd
Achubwyr bywyd
Disgrifiad o’r llun,

Achubwyr bywyd Cymdeithas Bad Achub yr RNLI

Mae Cymdeithas Bad Achub yr RNLI yn apelio ar bobl sy'n ymweld â thraethau dros yr haf i gadw at y rheolau.

Mae achubwyr bywyd y gymdeithas yn goruchwylio nifer o draethau poblogaidd ar y penwythnos o nawr tan ddiwedd Mehefin, a bydd y gwasanaeth yn un dyddiol wedyn nes 4 Medi.

Yn ôl rheolwr achubwyr bywyd yr RNLI yn y de, Jacob Davies: "Y neges bwysicaf i ni'n gofyn i bobl gofio'r tymor hwn, yw i ymweld â thraeth sydd ag achubwr bywyd yno, ac i nofio rhwng y baneri coch a melyn.

"Drwy wneud hynny fe allwch sicrhau y bydd achubwyr bywyd proffesiynol yn cadw llygad barcud i sicrhau bod pawb yn ddiogel ac yn mwynhau eu diwrnod ar y traeth."

900 o bobl

Roedd achubwyr bywyd y gymdeithas wedi helpu dros 900 o bobl ar 32 o draethau prysuraf Cymru y llynedd.

Yn ôl Mr Davies: "Os i chi'n darganfod eich bod chi neu rywun arall mewn trafferthion, mae angen codi'ch llaw a galw am gymorth.

"Mae'n bwysig nad i chi'n ceisio achub eich hunan, nag unrhyw un arall, fe allai'r sefyllfa newid yn sydyn, ac fe allwch chi fod mewn perygl hefyd."

O fis Gorffennaf ymlaen fe fydd achubwyr bywyd yr RNLI yn darparu gwasanaeth diogelwch dyddiol ar 39 o draethau Cymru dros yr haf.