EgyptAir: Teulu Cymro'n 'disgwyl am newyddion'
- Cyhoeddwyd
Mae brawd Cymro oedd ar fwrdd yr awyren EgyptAir aeth ar goll ddydd Iau wedi dweud bod y deuddydd diwethaf wedi bod yn anodd iawn, wrth i'r teulu ddisgwyl am fwy o newyddion.
Roedd Richard Osman, 40 oed, yn teithio i'r Aifft lle'r oedd yn gweithio gyda chwmni mwyngloddio aur, pan wnaeth yr awyren o Baris i Caio ddiflannu gyda 66 o deithwyr arni.
Fe gafodd Mr Osman ei fagu yng Nghaerfyrddin ac mae'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Y Frenhines Elisabeth.
Dywedodd ei frawd, Alastair, 36 oed o Abertawe, bod Mr Osman yn ddyn "twymgalon".
Mae gweddillion yr awyren wedi eu gweld yn y môr i'r de o ynys Karpathos ac mae llongau milwrol o'r Aifft a Ffrainc yn archwilio'r ardal.
Disgrifiodd Alastair ei frawd fel "gweithgar, llawn egwyddorion, a'r math o berson y byddech yn ei edmygu".
Cafodd ail ferch Mr Osman a'i wraig, Aureilie, 36 oed, ei geni tair wythnos yn ôl.
"Mae hi'n drist ei fod wedi cael ei amddifadu o ddyfodol gwych, a'u bod nhw wedi cael eu hamddifadu o'u gyfodol gydag ef," meddai Alastair.
"Mae'n rhaid i chi geisio aros yn gryf."
Mr Osman yw'r hynaf o bedwar o blant y diweddar feddyg Dr Mohamed Fekry Ali Osman a'i wraig Anne.
Mae ganddo ddau frawd; Alastair a Phillip, 34 oed, a chwaer; Anna, 32 oed, gafodd eu magu yn ne Cymru ar ôl i'w tad symud yno o'r Aifft.
Mae gan Mr Osman 16 mlynedd o brofiad yn y maes mwyngloddio, ac yn yr Aifft mae'n rheolwr ar safle mwyngloddio Sukari.
'Sefyllfa ofnadwy'
Dywedodd ei ffrind, Steve Ellyatt wrth y BBC ei fod yn ymwybodol o amserlen teithio Mr Osman a'i fod wedi gyrru neges at ei wraig i ofyn amdano.
"Fe wnaeth hi yrru neges yn ôl yn dweud: 'Yn anffodus mae ar yr awyren sydd wedi dod i lawr'," meddai.
"Mae hi'n sefyllfa ofnadwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2016