Plaid Cymru: Leanne Wood yn cyhoeddi ei chabinet cysgodol
- Cyhoeddwyd
Mae Leanne Wood wedi cyhoeddi newidiadau i gabinet cysgodol Plaid Cymru yn dilyn etholiad y Cynulliad.
Ar wahân i'r arweinydd, mae rôl newydd i bob un aelod o'r tîm.
Y cyn Aelod Seneddol Adam Price fydd llefarydd y blaid ar yr economi, Rhun ap Iorwerth ar iechyd a Llyr Huws Gruffydd ar addysg.
Egni fydd cyfrifoldeb Simon Thomas tra bydd AC newydd y blaid, Siân Gwenllian yn gyfrifol am lywodraeth leol a'r iaith Gymraeg.
Dyma dîm "cryf a rhagorol", meddai Ms Wood.
Yr Arglwydd Elis-Thomas fydd yn arwain ar faterion cyfansoddiadol, Neil McEvoy ar chwaraeon a thwristiaeth gyda Steffan Lewis yn delio â materion allanol.
Dai Lloyd yw cadeirydd a chomisiynydd Grŵp y Cynulliad, yn ogystal â bod yn gyfrifol am ddiwylliant, gyda Bethan Jenkins yn gyfrifol am dai.
Dywedodd Ms Wood: "Gyda'n gilydd, rydym yn edrych ymlaen at ddal y llywodraeth i gyfrif ac at wneud y mwyaf o'r cyfleoedd fydd yn codi dros y pum mlynedd nesaf.
"Rydym eisoes wedi dangos i'r Llywodraeth leiafrifol na allant weithredu fel petai ganddynt fwyafrif."