Cyn-filwyr: 'Angen gwneud mwy' i'w helpu ag iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy i gwrdd ag anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr yng Nghymru, yn ôl ymchwil newydd.
Mae adroddiad Call to Mind: Cymru yn dweud er bod y system wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf, mae angen datblygu pellach.
Mae'r gwelliannau yng Nghymru'n cynnwys sefydlu'r unig wasanaeth cyn-filwyr cenedlaethol yn y DU.
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Ymddiriedolaeth Forces in Mind, ac mae'n rhan o arolwg ehangach.
Mae'r adroddiad wedi'i seilio ar gyfres o gyfweliadau gyda chyn-filwyr a'u teuluoedd, ynghyd a phobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Y nod yw darganfod y ffordd fwyaf effeithiol o asesu anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr, cefnogi datblygiad y gwasanaethau yna a sicrhau bod yr arian sy'n mynd ar gyfleusterau'n cael ei wario'n synhwyrol.
Mae hyd at 250,000 o gyn-filwyr yng Nghymru ac mae ffigyrau'n awgrymu y bydd 4% ohonyn nhw yn dioddef o ryw fath o broblem iechyd meddwl.