Galw i wahardd gwerthu diodydd egni i blant

  • Cyhoeddwyd
Diodydd

Mae un o aelodau'r Cynulliad wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gwahardd gwerthu diodydd egni sydd yn llawn caffein i blant.

Daeth yr alwad am y gwaharddiad gan Jenny Rathbone yn dilyn gwaith ymchwil gan raglen Eye on Wales Radio Wales sy'n dangos bod o leiaf un o bob tri o ysgolion uwchradd Cymru wedi gwahardd disgyblion rhag dod a diodydd o'r fath i'r ysgol.

Mae'r corff sy'n cynrychioli gwneuthurwyr diodydd egni wedi disgrifio'r syniad o osod cyfyngder oedran ar y diodydd fel un "draconaidd" ag un sydd ddim wedi ei gefnogi gan dystiolaeth.

Mae gwerthu diodydd egni - sy'n cynnwys lefelau uchel o siwgr a chaffein - wedi ei wahardd mewn ysgolion ers 2007.

Ond mae llawer o benaethiaid ysgolion uwchradd wedi mynd cam ymhellach gan wahardd plant rhag dod a'r diodydd i'r ysgol oherwydd pryderon y gall y diodydd effeithio ar ymddygiad disgyblion a chyraeddiadau addysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr alwad am y gwaharddiad gan Jenny Rathbone AC

Ysgolion

Roedd ychydig yn llai na hanner y 205 o ysgolion uwchradd Cymru wedi ymateb i gais Eye on Wales am wybodaeth.

Dywedodd 69 o'r ysgolion oedd wedi ymateb eu bod wedi gwahardd y diodydd.

Mae Ms Rathbone am weld Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno deddfau tebyg i'r rhai sy'n bodoli yn Latfia a Lithwania, lle mae gwerthu diodydd egni wedi'i wahardd i bobl o dan 18 oed.

"Rwy'n awyddus iawn i edrych ar sut y gallwn ddefnyddio grymoedd y Cynulliad Cenedlaethol i amddiffyn plant," meddai.

"Rwy'n credu y dylai hyn fod am reoli gwerthiant y nwyddau hyn o blant o fan 16 oed o leiaf - fe fyddai'n well gen i weld gwaharddiad 18 oed."

Ymateb

Mae Sefydliad Diodydd Meddal Prydain - sy'n cynrychioli'r mwyafrif o gynhyrchwyr diodydd egni y DU - yn gwrthwynebu unrhyw ddeddfu o'r fath.

Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y sefydliad, Gavin Partington nad oedd modd cyfiawnhau gwaharddiad "draconaidd" o'r fath gan nad ydyw wedi ei gefnogi gan dystiolaeth ac fe fyddai'n cael gwared ar roi dewis i gwsmeriaid.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "llwyr ymwybodol" o bryderon iechyd am ddiodydd egni, yn enwedig i bobl ifanc.

Ychwanegodd bod y Gweinidog Iechyd yn y Cynulliad diwethaf wedi cytuno i weithredu yn bellach ar y mater, ac roedd wedi ysgrifennu i Asiantaeth Safonau Bwyd y DU yn gofyn iddyn nhw edrych ar "gyfleoedd pellach" i anfon neges addas i ddefnyddwyr - yn enwedig i blant a phobl ifanc.