Perchnogion newydd i Glwb pêl-droed Dinas Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae consortiwm o Sir Caer wedi prynu Clwb Pêl-droed Dinas Bangor, gan addo buddsoddi'n sylweddol yn y tîm.
Bydd cyfarwyddwr newydd yn cymryd yr awenau yn Nantporth, gyda'r cadeirydd newydd, Ivor Jenkins, yn eu harwain.
Nod y consortiwm yw gweld Bangor yn cyrraedd uchelfannau Uwchgynghrair Cymru unwaith eto.
Gordon Craig fydd llywydd newydd y clwb, Andy Ewing yn gyfarwyddwr cyllid, James Lees yn gyfarwyddwr masnachol ac Andy Halsam yn gyfrifydd a chyfarwyddwr y clwb.
'Anrhydedd'
Dywedodd Mr Jenkins: "Mae'n anrhydedd cael bod yn gadeirydd ar glwb mor fawr ym mhêl-droed Cymru a byddwn yn addo swm chwe ffigwr yn flynyddol er mwyn cael cyfranddaliadau yng Nghlwb Pêl-droed Bangor.
"Bydd hyn yn gadael i Neville Powell weithio gyda chyllideb a fydd yn ei alluogi i herio am y pedwar uchaf a phêl-droed Cynghrair Europa.
"Ein nod yn y pen draw yw gallu herio'r prif glybiau dros y tymhorau nesa' am Uwchgynghrair Cymru a phêl-droed Cynghrair Pencampwyr UEFA."
Bydd y cyfarwyddwr presennol yn ildio'r awenau, gan alluogi'r clwb i "symud ymlaen, gan gyflwyno tîm newydd o reolwyr", meddai cyn gadeirydd Bangor, Dilwyn Jones.
Ychwanegodd: "Rwyf i a'r bwrdd rheoli yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth sydd wedi cael ei roi i ni yn ein swyddi ac yn diolch i'r cefnogwyr, yr holl noddwyr a'u staff am eu cefnogaeth yn ystod saith mlynedd a hanner anhygoel."