Trysorau Sbardun
- Cyhoeddwyd
Ar ôl i'r cerddor a'r cyfansoddwr medrus Alun 'Sbardun' Huws farw ddiwedd 2014, roedd gan ei ewyllys gyfarwyddiadau pendant am beth i'w wneud gyda'i gasgliad helaeth o gitarau. Rhoddodd y cyfrifoldeb i'w gyfaill a'i gyd-gerddor Emyr Huws Jones i ddethol cerddorion haeddiannol i dderbyn yr offerynnau.
Mae'r cerddorion wedi derbyn eu hofferynnau ers rhai misoedd bellach, a bydd pob un, yn eu tro, yn ymddangos ar raglen Lisa Gwilym yn cyflwyno... i wneud Sesiwn Sbardun arbennig, efo'r offeryn.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs gydag Ems a Gwenno, gwraig Sbardun, am sut aethon nhw ati i ddewis pwy oedd yn derbyn pa gitâr:
"Do'n i ddim am wneud penderfyniad heb drafod efo Gwenno, felly aethon ni'n dau ati i drafod yn hir. Roedden ni eisiau eu rhoi i bobl oedd yn perfformio. Pobl odda ni'n meddwl fyddai'n gwneud defnydd ohonyn nhw ac yn eu gwerthfawrogi nhw."
Aeth Gwenno ymlaen: "Cerddoriaeth oedd byd Sbardun a mi roedd yn gwrando ar bob math o gerddoriaeth... wel popeth ond jazz a cherdd dant! Mi fyddai wrth ei fodd yn trafod cerddoriaeth efo Ems a mi fyddai'r ddau ohonyn nhw yn mynd i gigs ac yna dadansoddi'r caneuon a'r perfformiadau.
"Mi fyddai Sbard yn mynd yn reit ecseited wrth glywed cerddoriaeth newydd o Gymru yn arbennig os glywai bobol ifanc yn arbrofi yn y byd cerddoriaeth Gymraeg.
"Doedd ganddo fo ddim amynedd nac yn deall obsesiwn rhai cerddorion o feddwl mai llwyddo yn Lloegr oedd yn bwysig... ac roedd y busnes "celebs" yn wrthun iddo fo. Dyna pam oedd yr ewyllys yn nodi y dylai'r offerynnau fynd at Gymry ac yn cael eu cadw o fewn Cymru."
Un o gyfeillion agos Sbardun, Dewi Pws, sydd wedi cael y banjo. Meddai Gwenno, "Mae o'n byddaru ei wraig efo'r banjo, yn ei chwarae byth a hefyd! Byddai Sbardun wrth ei fodd yn clywed hynny!"
Pa gerddorion eraill gafodd eu dewis i fod yn berchen ar rai o gitarau arbennig Sbardun?
Euron Jôs, gitarydd â Gai Toms, Cowbois Rhos Botwnnog ac amryw o artistiaid eraill - Gitâr Resonator
Euron sy'n egluro sut cafodd y gitâr:
"Nath Ems ffonio fi'n annisgwyl, yn deud ei fod wedi cael y dasg o roi gitârs Sbardun allan. I ddechrau o'n i'n meddwl mai cael cynnig prynu'r gitâr o'n i - ges i dipyn o sioc pan nes i ddeall mod i'n cael un!
"Digwydd bod, mi o'n i 'di chwarae'r gitâr rhyw 6 neu 7 mlynedd yn ôl ar albym Tebot Piws. Ond doedd Ems ddim yn dallt hynny - cyd-ddigwyddiad oedd hi mai dyna'r gitâr roedden nhw wedi ei dewis i'w rhoi i mi.
"Mae hi'n gitâr sydd â chorff metal, oedd yn fath oedd yn cael ei ddefnyddio cyn trydan, i wneud sain uwch ac anarferol. Dwi'n defnyddio gitâr sleid, felly dwi'n meddwl mai dyna pam mod i wedi cael hon.
"Dwi heb ei chwara' hi'n gyhoeddus eto. Dwi ddim yn siŵr os a i â hi i gigs, rhag ofn ei difrodi hi - dwi'n meddwl mai ei defnyddio hi yn y stiwdio i recordio y gwna i'n benna'.
"Dwi wedi mopio'n lân ac mae'n anrhydedd eu bod nhw wedi meddwl amdana i."
Gwilym Bowen Rhys, aelod o'r bandiau Y Bandana a Plu - Gitâr Tenor
"Mi o'n i wedi synnu pan glywais fy mod am dderbyn un o offerynnau Sbardun, yn bennaf am nad oeddwn yn ei nabod o, yn wir, doedden ni erioed wedi cwrdd!
"Mae hyn yn dangos ei wir angerdd tuag at greu cerddoriaeth yng Nghymru, ei fod yn fodlon bod ei offerynnau yn cael eu rhoi i bobl nad oedd yn ei nabod ond gyda'r sicrwydd eu bod am ddefnyddio'r offeryn i greu cerddoriaeth ac i hybu'r diwylliant Cymreig, a dyna'n union dwi'n mynd i drio 'neud.
"Mae o'n offeryn digon anarferol - gitâr denor, hynny ydi gitâr pedair tant wedi'i diwnio fel fiola. Mae'n fraint gen i dderbyn yr offeryn hyfryd hwn, dwi'n sicr yn mynd i'w thrysori ac yn bwysicach fyth, am ei defnyddio!"
Ynyr Roberts, o'r band Brigyn - Gazouki
"Mae'n fraint mawr i mi gael rhoi cartref newydd i gazouki Sbardun. Mae'n offeryn arbennig iawn ac yn un wneith sicr fod yn ran annatod o set Brigyn yr haf hwn ac am flynyddoedd i ddod.
"Mae'r gazouki yn offeryn gyda sain hyfryd, mae'n gyfuniad o rinweddau'r bozouki Gwyddelig a gitâr acwstig ac yn un sydd wedi ei grefftu yn wych.
"Dwi'n cofio Sbardun yn sôn wrtha i ei fod o am gael gazouki wedi ei wneud yn arbennig iddo, a chofio mor gyffrous yr oedd o pan ddaru'r offeryn arbennig hwn gyrraedd. Roedd yn aml yn dod o hyd i offerynnau 'gwahanol' ac unigryw ar gyfer ei gasgliad, ac mae cael rhywbeth mor arwyddocaol â'r gazouki hwn yn fy ngofal yn gyffrous iawn i mi.
"Fe ddes i adnabod Sbardun nôl yn haf 2006, tra'n gweithio ar y ffilm 'Llythyrau Elis Williams'. Roedd ei natur gyfeillgar, ei jôcs a thynnu coes wedi rhoi seiliau da ar gyfer perthynas agos rhyngddom ni (Brigyn, ac ein teuluoedd) ac yntau.
"Fe gyfansoddodd bedair cân i Brigyn, a braint oedd cael dysgu, yna canu ac yna recordio pob un. Yn sicr daeth bod yn ei gwmni, a gweld y ffordd roedd yn gweithio a chyfansoddi yn ddylanwad mawr arna i."
Gai Toms - Gitâr Nashville
"Braint ac anrhydedd yw derbyn rhodd mor arbennig a hudol. Mae tôn arbennig y gitâr yn gweddu'n berffaith i ambell syniad, mi fydd hi i'w chlywed ar fy albwm nesa' yn bendant!
"Roedd Sbardun yn gyfansoddwr o fri, mae'r ffaith bod ei offerynnau rŵan ar wasgar fel fflachlwch o ysbrydoliaeth dros y wlad.
"Mae'r diolch yn anferth i Gwenno, Ems a'r teulu / ffrindiau - syniad annwyl a chyfeillgar iawn, fel y dyn ei hun.
"Mae'r Nashville high strung tuning yn swnio'n anhygoel... mae'n ychwanegiad gwych i wead sonig y stiwdio yn ogystal ag ambell i berfformiad byw. Wedi dweud hynny, dwi'n pryderu braidd am fynd â hi allan o'r stiwdio... gwell cadw trysor dan glo!"
Magi Tudur - Gitâr Gibson J45
"Ddaeth Yncl Ems (Emyr Huws Jones) i aros efo ni a dweud mod i'n cael un o'r gitârs. Nes i gyffroi'n lân pan ges i wybod, achos dwi'n gwybod fod y gitâr 'ma wedi golygu lot i Sbardun. Felly wrth gwrs, mae'n teimlo'n rili sbesial bo' nhw wedi dewis ei rhoi i mi.
"Dwi wedi bod yn brysur yn gigio yn ddiweddar, ac wedi ei chanu hi mewn dipyn o gigs yn barod - yn Steddfod yr Urdd ac mewn gwyliau bach yn Llanberis a Chaernarfon.
"Mae hi'n hyfryd i'w chwarae - mae'r sŵn strymio arni yn well na'r un gitâr sgen i.
"Mae hi bendant wedi fy ysgogi i i sgwennu mwy, â dweud y gwir. Ges i gyfnod o beidio sgwennu caneuon am ychydig, ond ers i mi gael hon, dwi wedi bod yn sgwennu llawer mwy.
"Dwi wedi gwirioni!"
Diléit mewn casglu gitarau
Roedd gan Sbardun ddegau o gitarau o wahanol fath, ac wrth ei fodd yn ychwanegu at ei gasgliad, fel mae Ems yn ei ddweud:
"Dwn i'm faint o ddefnydd roedd o'n eu gwneud o ambell un - roedd ei gasgliad mor fawr, ac yntau'n chwilio am rywbeth i'w brynu pob munud.
"Pan roedd Tebot Piws yn dechrau, roedden ni'n mynd i gigs heb gitâr, ac yn gobeithio gallu benthyg un! Ond erbyn y diwedd, roedd gan Sbardun ei hun rhyw bedair efo fo, mewn stands o'i amgylch ar y llwyfan."
Felly wrth reswm, mae 'na ambell i offeryn sydd heb ffeindio'r cartref cywir eto. Ond mae 'na syniad ynglŷn â beth i'w gwneud â nhw, meddai Gwenno:
"Mi ryden ni wedi codi dipyn o arian yn enw Sbardun i Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth - y neuadd a'r bro oedd mor, mor bwysig iddo fo. Mae pawb wedi bod yn hynod o hael, ac mae'r criw gwych yn Penrhyn wedi creu 'Stafell Alun 'Sbardun' Huws yn y neuadd. Yn y stafell, mae 'na ambell i lun ohono ac ambell i gerdd sgwennodd o, ac wrach mai dyna fyddai'r lle gorau i rai o'i offerynnau."
Ond mae Gwenno wedi cadw un gitâr arbennig oedd yn y casgliad, sef gitâr roedd Sbardun wedi ei phrynu gan Endaf Emlyn yn yr 1970au - gitâr roedd o wedi ei defnyddio ar yr albym 'Salem'. Roedd y gitâr hefyd unwaith wedi cael ei defnyddio i gyfeilio i'r canwr o America, Andy Williams, mewn cyngerdd. Felly, doedd dim modd ffarwelio â'r gitâr honno, oedd â gymaint o hanes ynghlwm iddi.
Medd Ems am Sbardun, "Dwi wir yn gobeithio y byddai o wedi bod yn hapus efo'n penderfyniad ni, ac yn sicr, byddai'n falch o wybod bod yr offerynnau yn cael eu defnyddio.
"Mae pawb sydd wedi derbyn yr offerynnau wedi gwirioni, a dwi'n gobeithio gawn ni glywed pethau mawr efo nhw - dwi'n siŵr y cawn ni."
Lisa Gwilym yn cyflwyno... ar BBC Radio Cymru, bob Nos Fercher am 19.00