Diogelu'r Preselau
- Cyhoeddwyd
Mae pentrefi a chymunedau mynyddoedd y Preselau yng Ngogledd Sir Benfro yn gadarnle'r Gymraeg, ac wedi bod ers cyn cof.
Ond bron i'r gymuned gael ei chwalu ar ôl yr Ail Ryfel Byd, pan gyhoeddodd y Swyddfa Ryfel eu bod yn bwriadu meddiannu'r mynyddoedd a'u troi'n faes hyfforddi milwrol.
Hefin Wyn, newyddiadurwr a hanesydd lleol fu'n rhoi'r hanes i Cymru Fyw
Tanciau lle bu twyni
Cafodd yr ardal ei ddefnyddio'n helaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan yr Americanwyr ar gyfer ymarfer brwydro ar dir mynyddig a dyna agorodd y drws i'r cynllun.
Mi oedd yr ardalwyr yn gyfarwydd â milwyr, a doedd dim gwrthwynebiad i helpu paratoi a hyfforddi milwyr yn ystod cyfnod o ryfel, ond roedd y Swyddfa Ryfel yn credu y byddai'n syniad da i droi'r tir yn ardal ymarfer filwrol barhaol.
Roedd teimlad ymhlith y fyddin bod ddim digon o baratoi wedi bod cyn yr Ail Ryfel Byd. Roedden nhw'n gweld llethrau'r Preselau'n lle da i ymarfer gyda thanciau. Roedd y fyddin eisoes yn ymarfer yn ne'r sir, ond roedd hwnnw'n dir gwastad, felly mae'n siŵr eu bod yn gweld y Preselau fel lleoliad addas i hyfforddi ar dir mwy heriol.
Dyfodol y Gymraeg
Roedd 16,000 o erwau yn rhan o'r cynllun, gan gynnwys 200 o ffermydd a chartrefi. Byddai'r safle dan sylw wedi cynnwys ardal tu hwnt i Grymych a'r Frenni Fawr, yr holl ffordd lawr i Casmael a draw tu hwnt i Faenclochog. Mae'n bosib y byddai Maenclochog wedi tyfu i fod yn bentref gariswn.
Nid mater o feddiannu a defnyddio'r tir dros dro oedd hi. Byddai Mynyddoedd y Preselau wedi bod yn gaeëdig ac o dan reolaeth y Swyddfa Ryfel yn gyfan gwbl.
Y Preselau yw asgwrn cefn y sir yn ddaearyddol ac yn gelfyddydol. Mae teuluoedd y mynydd wedi cynnal, magu a datblygu Cymreictod naturiol y sir ac maen nhw'n dal i wneud heddiw. Petai'r cynllun hwn wedi mynd yn ei flaen, byddai'r ergyd i'r Gymraeg wedi'i theimlo llawer ymhellach na'r ardal leol yn unig. Petai'r mynydd wedi'i golli, byddai canrifoedd o draddodiad wedi ei golli.
Côr o leisiau
Yn y frwydr hon, nid un llais, nag un cymeriad oedd yn gyfrifol am atal y cynllun. Roedd unigolion blaenllaw lleol wedi codi a threfnu a llythyru. Ond un ffactor bwysig oedd arweiniad gweinidogion yr ardal. Roedd anghydffurfiaeth ar ei anterth a nhw oedd yn rheng flaen y frwydr.
Ac roedd y defnydd o dermau gafodd eu defnyddio yn graff iawn. Nid pwyllgor amddiffyn na phwyllgor gwrthwynebu gafodd ei ffurfio, ond pwyllgor diogelu. Mae'r defnydd o'r gair 'na'n un pwysig gan fod iddo lawer ystyr.
Diogelu cymuned, diogelu treftadaeth. Nid jest amddiffyn eiddo oedden nhw, gan fod llawer mwy yma i amddiffyn nag eiddo. Roedden nhw wedi llwyddo i godi dadl foesol a oedd yn uwch na hynny.
Ysgrifennodd Waldo gerddi, anfonodd D.J Williams lythyrau ac ymgyrchu'n frwd, ond y gweinidogion yma oedd yn arwain y gad. Mae 'na stori ar lafar gwlad sydd mae'n debyg yn adrodd y foment dyngedfennol yn y frwydr.
Ŵyn ac eneidiau
Roedd dau Uwch Gadfridog o'r Swyddfa Ryfel wedi trefnu i gyfarfod â chynrychiolwyr o'r ymgyrch ddiogelu sef Jo a Parri Bach, (Parch Joseff James a'r Parch R Parri Roberts, Mynachlog-ddu).
Dechreuodd y ddau swyddog milwrol y cyfarfod ar lethrau'r Preselau trwy restru pam nad oedd y tir yn addas ar gyfer amaethyddiaeth. Awgrymodd y ddau fod y tir yn ddiffrwyth, yn serth ac yn addas i gadw defaid am fwy na 'chydig o fisoedd y flwyddyn. Iddyn nhw, man a man felly i'r tir gael ei ddefnyddio at ddiben paratoi at ryfela.
Edrychodd Parri Bach i fyw eu llygaid a'u hateb yn syth: "Gwrandwch 'ma, nid magu ŵyn y'n ni ar y llethrau yma, ond magu eneidiau."
Roedd y penderfyniad yn y llais, nerth y ddadl, a gallu'r gweinidogion i godi'r ddadl i dir uwch, i dir ysbrydol a moesol yn ffactor bwysig yn y llwyddiant.
Roedden nhw, a gweinidogion eraill y cylch, yn bygwth meddiannu rhai o'r bythynnod ar y tir gan wrthod symud oddi yno. Roedd hwn yn fygythiad o gig a gwaed roedden nhw'n barod i daflu at fois y fyddin.
Henebion yn ennill y dydd
Aeth y broses a'r ddadl ymlaen am dros ddwy flynedd i gyd, o 1946 i 1948, ac yn ystod y cyfnod roedd adroddiadau gan wahanol fudiadau amaethyddol a hanesyddol. Roedd rhai'n cwestiynu a oedd hi'n dderbyniol i ddinistrio henebion yr ardal, gan gynnwys man cloddio'r cerrig glas gafodd eu defnyddio i godi Côr y Cewri.
Wrth i'r gwrthwynebiad gynyddu, buan y blinodd swyddogion coridorau grym San Steffan ar y protestio ac mi benderfynon nhw roi'r gorau ar y cynllun gan ddefnyddio eu dyhead i achub henbion yr ardal fel rheswm am y tro pedol.
Mae'n drist mewn ffordd fod cael eu gweld yn amddiffyn henebion yn fwy derbyniol na chael eu gweld yn amddiffyn treftadaeth!
Ond dyna fel buodd hi, a diolch am hynny.
Mae hon yn stori brin o lwyddiant cymuned yn erbyn grymoedd y wladwriaeth. Dim ond wrth feddwl am fethiannau Mynydd Epynt rhai blynyddoedd cynt a Thryweryn yn ddiweddarach, mae'n bosib gwerthfawrogi faint o gamp oedd y fuddugoliaeth.