Troseddau rhyw: Apêl Heddlu'r Gogledd am ddyn

  • Cyhoeddwyd
David Daniel HayesFfynhonnell y llun, Heddlu`r gogledd
Disgrifiad o’r llun,

David Daniel Hayes

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i ddyn 37 oed maen nhw am ei holi mewn cysylltiad gyda throseddau rhyw yn erbyn plant yn Sir Fôn.

Y gred yw bod David Daniel Hayes wedi gadael yr ardal ar ôl iddo ymddangos o flaen llys ym mis Tachwedd 2015. Fe gafodd ei ryddhau ar fechniaeth ond fe fethodd a dychwelyd i`r llys.

Cyhoeddwyd gwarant i`w arestio fis Rhagfyr y llynedd.

Er gwaethaf ymholiadau gan yr heddlu ar draws y DU dyw David Hayes ddim wedi ei ddarganfod.

Bellach mae yna gred ei fod wedi teithio dramor, ac mae`r heddlu yn apelio am gymorth y cyhoedd i ddod o hyd iddo.

Dywedodd y Prif Arolygydd Dditectif Andrew Williams: "Dwi`n apelio ar unrhyw un sy`n gwybod lle mae David Daniel Hayes, neu sydd â gwybodaeth allai helpu`r heddlu i ddod o hyd iddo, i gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru.

"Rwy` hefyd yn apelio ar Mr Hayes i gysylltu."

Mae Hayes wedi byw yn Sir Fôn, Llanrwst ac yng Ngwynedd yn y gorffenol.