Euro 2016: Cymru'n wynebu Slofacia
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr wedi ymgynnull i wylio'r tîm cenedlaethol yn cymryd rhan mewn gemau terfynol rhyngwladol am y tro cyntaf mewn 58 o flynyddoedd.
Mae carfan Chris Coleman yn wynebu Slofacia yn Bordeaux.
Mae ardal i gefnogwyr gyda sgrîn fawr wedi ei sefydlu ym Mharc Biwt yng Nghaerdydd. Cafodd cynlluniau am ardal gefnogwyr yng Nghasnewydd eu gwrthod.
Yn gynharach fe ddymunodd Carwyn Jones lwc dda i dîm Cymru sydd "wedi dod yn agos mor aml dros 58 o flynyddoedd."
"Bydd Cymru'n cael ei chynrychioli mewn twrnament fydd yn cael ei wylio gan biliynau o gefnogwyr pêl-droed ar draws y byd yr haf hwn. Mae'n anhygoel, yn ddigyffelyb, ac yn gwbl haeddianol.
"Pob lwc fechgyn, rydym ni hefo chi yr holl ffordd."
Mae ryw 30,000 o gefnogwyr wedi bod yn teithio i Ffrainc ar gyfer y gystadleuaeth. Ond mae rhai wedi wynebu trafferthion cyrraedd Ffrainc gydag oedi ym maes awyr Bergerac yn golygu fod rhai wedi cyrraedd Bordeaux yn hwyr.
Ac mae teulu o Lannau Dyfrdwy sydd yn byw yn Bordeaux wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod "wedi eu cyffroi" o weld cymaint o gefnogwyr yn teithio draw, gan fod llawer o'u cymdogion yn credu eu bod yn dod o Loegr.
Dywedodd Patricia Davey: "Nid yw Cymru fel gwlad yn cael ei hadnabod yn anffodus. Rydych chi'n son am Gymru ac mae pobl yn edrych arno chi yn ddryslyd a dweud 'lle mae fanno? Lloegr yw e, ie?'
"Efallai y gwnai ddod lawr i'r ardal gefnogwyr a'i wylio ar y sgrîn fawr. Mae'n rhaid i chi gefnogi Cymru."
Bydd rhai o adeiladau amlyca' Cymru yn cael eu goleuo'n goch ar gyfer pencampwriaeth Euro 2016. Yn ogystal â Chanolfan Mileniwm Cymru, y Senedd a Pharc Cathays yng Nghaerdydd, bydd nifer o safleoedd Cadw fel Castell Biwmares, Castell Caernarfon, Abaty Tyndyrn a Chastell Cydweli hefyd wedi'u goleuo.
Mae modd dilyn y diweddaraf o Bordeaux mewn llif byw arbennig ar Cymru Fyw, yn cynnwys sylwebaeth arbennig gan rhai o drigolion Bryncoch - gyda'r llif byw yn dechrau am 15:00 ddydd Sadwrn.