Dadorchuddio carreg goffa i Moc Morgan
- Cyhoeddwyd

Mae carreg goffa wedi ei dadorchuddio er cof am y darlledwr a'r pysgotwr, Moc Morgan. Mae'r garreg ar lannau Llyn Egnant - un o lynnoedd Teifi ger pentref Ffair Rhos.
Roedd Moc Morgan yn wyneb a llais cyfarwydd i wylwyr S4C a gwrandawyr Radio Cymru, yn gyflwynydd a chyfrannwr cyson i raglenni am fywyd cefn gwlad.
Roedd ganddo gyfres ar S4C, Byd Moc.
Roedd yn weithgar iawn yn ei gymuned yn ardal Tregaron a Phontrhydfendigaid ac roedd yn gefnogwr brwdfrydig i eisteddfodau lleol ac i fywyd cefn gwlad. Mi fuodd farw ym mis Mai 2015 yn 86 oed.

Roedd Rhys Llywelyn, sydd yn llywydd Cymdeithas Pysgota Brithyll ac Eog Cymru yn ffrindiau da gyda Moc Morgan.
"Dyma oedd un o hoff lefydd Moc i bysgota. Odd e'n le odd yn agos iawn at ei galon e a'r lle ddechreuodd e bysgota. Felly odd hi'n bwysig iawn bod y garreg yn fan hyn achos fan hyn fydde Moc yn lico sefyll i edrych mas dros y llyn cyn mynd ati i bysgota."
Fe ddadorchuddiwyd y garreg gan ei weddw, Julia Morgan
Felly odd hi'n bwysig iawn bod y garreg yn fan hyn achos fan hyn fydde Moc yn lico sefyll i edrych mas dros y llyn cyn mynd ati i bysgota."
Dywedodd ei weddw, Julia Morgan: "Mae'n gofeb hyfryd ac fel rwy'n gweld hon mae fel petai'n torri mewn i'r cefndir fan hyn yn hyfryd ar lan Llyn Egnant."
