Hen dafodiaith ardal y Steddfod
- Cyhoeddwyd
Cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yw cartref un o dafodieithoedd hynaf Cymru, sef y Wenhwyseg. Daw'r enw oddi wrth yr enw ar hen drigolion Gwent, y Gwennwys. Redd yr iaith yn cael ei siarad yn eang ar un adeg mewn ardal yn ymestyn o Sir Fynwy cyn belled â Dyffryn Aman a Bannau Brycheiniog. Ond go brin y byddwch yn clywed llawer o un o dafodieithoedd hynotaf Cymru pan fyddwch yn ymweld ag ardal Y Fenni ar gyfer yr Eisteddfod. Hynny, er mai dyma gartref y Wenhwyseg.
Erbyn heddiw mae cadarnleoedd y dafodiaith wedi dirywio, a nifer y siaradwyr wedi gostwng yn helaeth. Mae Dr Elin Jones, sy'n Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni eleni, yn parhau i siarad y dafodiaith arbennig yma, ac wedi rhannu ei phrofiadau â Cymru Fyw.
"Iaith yr aelwyd"
Peth ofnadwy yw bod â chywilydd o'ch iaith eich hun ac ofni agor eich ceg rhag i eraill eich dirmygu a'ch gwawdio. Ond dyna oedd profiad miloedd o bobl de ddwyrain Cymru ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Doedd dim parch na statws i'r iaith Gymraeg yn y byd mawr, ac yr oedd y tafodiaith a siaradent ymhell iawn o'r iaith glasurol a glywent yn y capel a'r ysgol Sul. Iaith yr aelwyd, y ffas glo a'r ffwrnais - a'r dafarn - oedd y Wenhwyseg.
Ganrif yn ôl, byddai trigolion bro'r Eisteddfod eleni yn ffurfioli eu geiriau wrth ffurfioli eu gwisg er mwyn mynd i'r cwrdd neu'r gymdeithas lenyddol neu'r côr - os dewisent siarad Cymraeg o gwbl, wrth gwrs.
Penderfynodd sawl teulu, fel teulu fy nhad innau, y dylai iaith yr aelwyd newid o'r Gymraeg i'r Saesneg, er mwyn gwella siawns y plant i gael swyddi o gyfrifoldeb a statws. Tua'r un adeg penderfynodd 'nhadcu beidio mynychu'r dafarn hefyd!
Y Wenhwyseg wedi gadael ei marc
Erbyn heddiw, does nemor neb ar ôl sy'n 'wilia Cymræg' yng nghymoedd de Cymru. 'Iaith ddeche' sydd gan y Cymry sy'n byw yma, neu dafodiaith newydd yr ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd mor niferus yn yr ardal hon.
Ond mae seiniau'r Wenhwyseg i'w clywed o hyd, wedi ei ffosileiddio yn enwau lleoedd fel Gelligær ac Aberdær, neu Penallta (nid Penalltau!).
Cewch hefyd ddarlun byw o deulu oedd yn arfer y Wenhwyseg yn 'Pan Oeddwn Fachgen' gan Mihangel Morgan, ac mae yr Athro Meic Stephens wedi cyhoeddi 'Wilia', cyfrol o farddoniaeth yn y Wenhwyseg.
Byddai fy nheulu innau wedi synnu i weld academyddion yn talu cymaint o sylw i'w tafodiaith 'sathredig'! Ond rwy'n credu y byddent yn fodlon iawn o wybod bod y Gymraeg yn fyw o hyd yn eu bro, beth bynnag yw ffurfiau'r ferf, neu'r gystrawen. Rhaid i bopeth sy'n byw dyfu a newid: does dim bywyd mewn ffosil.
Mae fersiwn cyfforddus o'n hanes fel cenedl yn rhoi'r bai am y gostyngiad yn y niferoedd sy'n siarad Cymraeg ar y 'Welsh Not' a pholisi wrth-Gymreig ysgolion Cymru yn y gorffennol oedd dan ddylanwad ac awdurdod y llywodraeth yn Llundain.
Mae elfen o wirionedd yn hynny, ond adlewyrchu gwerthoedd eu hoes oedd yr ysgolion hyn. Dan ddylanwad yr un gwerthoedd y magodd mwyafrif y Cymry a siaradent y Wenhwyseg gywilydd o'u tafodiaith, a dewis cefnogi polisi iaith yr ysgolion a newid iaith yr aelwyd hefyd.
Y genhedlaeth nesaf
Mae plant, wyrion a gorwyrion y Cymry hynny heddiw'n mynychu dosbarthiadau dysgu Cymraeg i geisio, trwy lafur caled, adfer yr iaith wrthodwyd gan eu cydeidiau gynt.
Maent hefyd - ac yn eu miloedd - yn anfon eu plant i'r ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd mor niferus yn yr ardal hon. Diflannodd y Wenhwyseg o fro'r Eisteddfod, ond erys hiraeth amdani.
Gobeithio nag oes gan neb sy'n darllen y geiriau hyn â chywilydd o'u tafodiaith, ac nid ydynt yn dirmygu'r dafodiaith newydd a ddatblygodd yn yr ysgolion Cymraeg. Gall cywilydd a dirmyg ladd iaith: lladdon nhw'r Wenhwyseg.
Yn ein calonnau ac ar ein tafodau ni fel unigolion mae mamiaith yn byw neu'n marw. Byddwn yn falch o'n heniaith yn ei holl amrywiaeth - a siaradwn holl dafodieithoedd Cymru gyfan ar faes Y Fenni eleni!
Cyhoeddwyd y darn hwn gan Dr Elin Jones yn wreiddiol ar BBC Cymru Fyw adeg Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch 2015.