Ystyried pleidleisio gorfodol i'r Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
cynulliad

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, wedi awgrymu y gallai'r Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio grymoedd newydd i gyflwyno pleidleisio gorfodol.

Fe ddaeth sylwadau Mr Cairns wrth iddo arwain y drafodaeth ar Fesur Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin.

Disgwylir i'r mesur ganiatáu i'r Cynulliad gael grymoedd newydd dros faterion etholiadol, gan gynnwys oedran pleidleisio a phleidleisio gorfodol.

Mewn ymateb dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, Albert Owen : "Mae hyn yn newyddion ardderchog.

"Mae gennym y cyfle nawr i gyflwyno pleidleisio gorfodol yng Nghymru. Rwy'n meddwl bod hynny'n radical,"

Ers sefydlu'r Cynulliad yn 1999 mae cyfraddau pleidleisio ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn gymharol isel.

Fe wnaeth 45% o'r etholwyr fwrw eu pleidlais yn Etholiadau Cynulliad 2016.

Mae hynny yn cymharu â 65% yn Etholiad Cyffredinol 2015.

"Diffyg Parch"

Yn ystod y drafodaeth ar Fesur Cymru datgelodd David Jones, cyn Ysgrifennydd Cymru, fod ganddo "bryderon mawr" na fyddai yna refferendwm ar roi grymoedd codi trethi i'r Cynulliad.

Dywedodd ei fod e, a chyd aelodau Ceidwadol, wedi addo refferendwm yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol.

Hawliodd y byddai peidio cynnal refferendwm yn "dangos diffyg parch" tuag at bobl Cymru.