Cynnig codi trethi i 'wella Cymru'

  • Cyhoeddwyd
gwelyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Sefydliad Befan yn cynnig codi trethi ar siopau gwelyau haul

Mae taliadau ychwanegol am ddefnyddio gwelyau haul a phecynnau bwyd parod, ymhlith nifer o drethi y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno, yn ôl un felin drafod.

Dywedodd y Sefydliad Bevan, y byddai wyth o drethi newydd yn helpu i wneud Cymru yn fwy "gwyrdd, iachach a cyn well allan".

Croesawodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yr adroddiad.

Ond dywedodd UKIP y byddai'r trethi yn gwneud Cymru "yn fwy diflas" a dywedodd y Ceidwadwyr fod yr adroddiad yn "arlliw o wladwriaeth nanny".

O dan Ddeddf Cymru 2014, mae gan Llywodraeth Cymru y grymoedd i sefydlu trethi newydd mewn meysydd datganoledig.

Y trethi mae Sefydliad Bevan am weld yw:

  • "Treth gwelyau haul" i wneud sesiynau salon gwelyau haul yn ddrytach.

  • "Treth pecynnu bwyd parod" ar becynnau polystyren a fyddai'n gweithio mewn ffordd debyg i'r tâl am fagiau siopa.

  • "Toll twristiaeth", lle mae "tâl bychan, y noson" ar lety dros dro sy'n cynhyrchu arian, fydd ar gael i'w wario ar "wasanaethau cyhoeddus sy'n gysylltiedig â thwristiaeth".

  • "Treth siwgr" ar fwydydd a diodydd llawn siwgr yn lle treth diodydd llawn siwgr llywodraeth y DU.

  • "Credydau treth Arloesol" i annog ymchwil a datblygu mewn busnes.

  • "Ardoll datblygu'r gweithlu" i gymryd lle'r ardoll prentisiaeth yng Nghymru.

  • "Treth gwerth tir" yn lle trethi busnes a threth cyngor, neu addasu'r ffordd y maent yn cael eu cyfrifo.

  • Treth dŵr i unrhyw un sy'n "cymryd rhan yn yr echdynnu masnachol o ddŵr".

Dywedodd cyfarwyddwr y Sefydliad Bevan, Victoria Winckler, y byddai angen i'r dreth gwelyau haul fod yn "eithaf sylweddol" i rwystro pobl rhag eu defnyddio.

Meddai: "Rydym yn credu fod trethi yn wirioneddol bwysig. Rydym wedi dod i arfer i siarad am drethi fel pe eu bod yn beth drwg.

"Ond mewn gwirionedd, trethi sy'n talu am yr holl bethau da sydd gennym."

Dywedodd ysgrifennydd y cabinet dros gyllid, Mark Drakeford: "Gallai'r pŵer i gyflwyno trethi newydd yng Nghymru gael eu defnyddio i wella bywydau a lles pobl ar draws y wlad.

"Mae hwn yn adroddiad defnyddiol iawn ac yn codi ymwybyddiaeth o'r pwerau newydd hyn."

Dywedodd arweinydd y grŵp UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton: "Mae Sefydliad Bevan am wneud Cymru yn lle mwy diflas trwy drethu ar bleserau y bobl."

"Dylai Cymru gael refferendwm ar bwerau codi trethi."

Disgrifiad o’r llun,

Russell George A.C.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George: "Mae'r adroddiad, tra'n llawn bwriadau da, yn arlliw o 'wladwriaeth nanny' a bydd nid yn unig yn atal entrepreneuriaid, ond yn rhoi hwb i'r economi farchnad ddu ac yn creu haen ddiangen arall o fiwrocratiaeth."

Mae ymchwil y Sefydliad Bevan wedi ei ariannu gan grant gan yr elusen gwrth-dlodi - Ymddiriedolaeth Joseph Rowntree.