Llwybr yn Eryri i roi 'hwb o £1.5 miliwn' i'r economi leol

  • Cyhoeddwyd
Capel CurigFfynhonnell y llun, Thinkstock

Fe allai llwybr newydd 85 milltir o hyd drwy rai o bentrefi llechi Eryri gyfrannu £1.5 miliwn i'r economi leol, yn ôl grwpiau cymunedol.

Mae Grŵp Gweithredu Cymunedol Cwm o Ddyffryn Conwy wedi sicrhau cymhorthdal o £53,00 er mwyn creu llwybr Llechi Eryri gan gychwyn o Borth Penrhyn i Fethesda.

Daw'r arian wrth i gyngor Gwynedd geisio sicrhau statws Treftadaeth y Byd ar gyfer pentrefi llechi'r ardal.

Dywedodd Aled Owen o Grŵp Gweithredu Cymunedol Cwm, Cwm Penmachno, ger Betws-y-Coed: "Rwy'n credu y bydd y buddsoddiad yn y llwybrau yn cael ei ad-dalu yn ôl a gallwch luosogi'r arian 20 gwaith o ran cyfrannu i'r economi leol," meddai.

"Mae potensial i gyfrannu £1.5 miliwn y flwyddyn i'r cymunedau hyn."

Mae partneriaid eraill y cynllun yn cynnwys Côr Meibion Penrhyn, Band Arian Deiniolen, a Chymdeithas Hanes Blaenau Ffestiniog.

Fe wnaeth Magnox, a chynghorau tre Ffestiniog a Bethesda hefyd gyfrannu arian.

Mae disgwyl i'r cynllun gael ei gwblhau erbyn 2017.