Arwain merched Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'n fudiad sydd wedi dylanwadu ar genedlaethau o ferched Cymru a nawr mae cyfraniad y Girl Guides yn cael ei nodi mewn arddangosfa arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Dechreuodd Girlguiding Cymru yng Nghaerfyrddin yn 1910 wedi llwyddiant ysgubol Baden-Powell a'r Boy Scouts gafodd ei sefydlu dair blynedd ynghynt.
Er gwaetha atyniadau'r byd modern, mae cannoedd o ferched ifanc ar hyd a lled Cymru yn dal i gymryd rhan yng ngweithgareddau amrywiol y mudiad.
Bu Cymru Fyw yn siarad â dwy sydd wedi ymwneud â'r mudiad ers yn ifanc iawn.
Mae Ann Ashworth o Landrillo yn Rhos, ac wedi bod yn weithgar gyda'r Guides ers dros 60 mlynedd:
"Ges i wahoddiad yn 10 oed gan ffrindiau oedd yn byw ar yr un stryd â mi ym Mae Colwyn i ymuno â'r Brownies, ac mi wnes i fwynhau pob eiliad. O fewn amser prin iawn, 'nes i lwyddo i basio'r Dosbarth Cyntaf ac felly cael fy ngwobrwyo ag Adenydd y Brownies, ac felly yn cael 'hedfan' i'r Girl Guides.
"Roedd gan cwmni 1st Colwyn Bay draddodiad cryf o wersylla a chynnig chyfleoedd arbennig i gwrdd â merched eraill - rhai lleol a rhyngwladol. Mi nes i gynrychioli Cymru yn y digwyddiad rhyngwladol 'Camp of the Ten Stars', ar dir Castell Blair Atholl yn Sir Perth yn 1957.
"Gwnes i ffrindiau ag aelodau o'r Guides o'r Pilipinau a grŵp gwych o genod o Wlad Belg, a ganodd fersiwn anhygoel o gân mae'r Guides yn ei chanu yn aml 'In a Cottage, In a Wood', mewn Ffrangeg!
"Yn hwyrach yr haf hwnnw, cawson ni wersylla mewn chalet, yng nghanolfan Guides y byd yn Adelboden, y Swistir, ac ar y ffordd nôl, arhoson ni mewn hostel oedd yn perthyn i'r Guides yn Paris. A phwy oedd yno hefyd, oedd fy ffrindiau o'r Pilipinau! Am brofiadau. Yn 1968, fi oedd arweinydd grŵp o'r DU a aeth i Sweden - mwy o atgofion hyfryd i'w trysori."
Aelod i fod yn Arweinydd
Mae gan Gwawr James, bellach o Gaerdydd, ond yn wreiddiol o'r Trallwng, hefyd atgofion melys am ei phrofiadau yn y Guides:
"Nes i ymuno nôl yn 1989 oherwydd fod Mam yn poeni nad oeddwn yn gallu siarad Saesneg, gan mae Cymraeg oedd iaith y teulu a'r ysgol. Roedd hi'n meddwl y byddai ymuno yn gwneud i fi gymdeithasu yn Saesneg!
"Mi es ymlaen i'r Brownies, Guides ac yna i'r Rangers, ac yno, yn 18 oed, cefais fy annog i wneud cymwysterau i ddod yn arweinydd fy hun.
"Nôl yn 2003 nes i symud i Caerdydd fel myfyrwraig, ac mi gymerais amser i setlo yn y ddinas, ond un o'r pethau a helpodd oedd dod o hyd i'r grŵp Brownies ym Mhontcanna a dechrau helpu allan yno bob wythnos.
"Yna yn 2005 mi gefais gais i ail-agor uned Rainbow yn Nhreganna, a oedd newydd gau i lawr - a dwi dal i'w redeg hyd heddiw. Mi rydyn ni wedi symud i Landaf ac yn uned gryf o 15 o ferched a dros 20 ar y rhestr aros!
"Dwi wrth fy modd yn gwneud y gwaith gwirfoddol yma - dim ond cwpwl o oriau yr wythnos sydd angen ei roi a dwi'n cael pleser mawr ohono - byswn i ar goll heb Guiding yn fy mywyd."
Pethau'n well bryd hynny?
Felly sut mae gweithgareddau'r Guides modern yn cymharu â'r digwyddiadau yn yr oes a fu? Gwawr sy'n egluro: "Mae pethau wedi newid ac mae'r profiadau roedd y Guides yn eu cael flynyddoedd yn ôl ychydig yn wahanol i'r profiadau heddiw - ond yr un mor werthfawr.
"Roedd cyfnod cynnar y Guides yn arloesol gan nad oedd y cyfleon i deithio dramor gyda theuluoedd/ysgol fel mae plant a phobl ifanc heddiw yn cael ei wneud.
"Mae'r cyfleoedd i deithio wedi newid, â'r pwyslais nawr ar wneud gwaith gwirfoddol mewn gwledydd tramor yn hytrach na dim ond mwynhau! Wedi dweud hynny dwi'n meddwl bod mwy o gyfleoedd i gampio a gweithgareddau yn y wlad yma, a chwrdd â grwpiau eraill."
"Rhywbeth ar gyfer pawb"
Mae Ann yn credu fod y mudiad bendant yn mynd o nerth i nerth: "Mae gan Girlguiding Cymru heddiw dros 22,000 o aelodau yng Nghymru - hyd yma eleni mae aelodau wedi mwynhau gwersylla yn ChillFest ym mis Ionawr, chwaraeon dŵr yng Nghei Newydd, dydd o rygbi â'r Gweilch a WOW Camp ar gae'r sioe yn Llanfair-ym-Muallt. Mae rhywbeth ar gyfer pawb, ac mae'r sefydliad yn parhau i fod yn berthnasol i ferched ifanc heddiw.
Mae Gwawr yn cytuno â hyn: "Mae Guides yn hynod berthnasol heddiw a dal yn rhoi cyfle nad yw'r system addysg yn ei roi i'n plant a phobl ifanc, megis dysgu llawer o sgiliau fel cyfathrebu, gwaith tîm, datrys problemau a sgiliau bywyd. Mae'r mudiad wedi newid efo amser - dydy o bendant ddim yn sefydliad hen ffasiwn.
"Mae hefyd yn rhoi llais i hawliau merched, yn genedlaethol. A dwi'n bersonol yn meddwl fod y ffaith mai merched yn unig sy'n cael ymuno dal yn bwysig, oherwydd fod merched yn cael bod yn ferched (does dim angen plesio bechgyn!) Mae Guides hefyd yn agored i bob merch o unrhyw ffydd neu tras ac dwi'n meddwl bod hyn yn bwysig, yn arbennig y dyddiau yma."
Edrych nôl, i edrych 'mlaen
Mae Ann hefyd yn parhau i fod yn weithgar gyda'r sefydliad, ac yn gweithio tuag at ddiogelu'r gorffennol: "Mae Girlguiding yn parhau yn rhan fawr o fy mywyd, gan fy mod i'n aelod o Colwyn Trefoil Guild ac yn Gadeirydd Cyfeillion Broneirion - grŵp brwdfrydig iawn sydd yn gweithio mor galed er mwyn sicrhau fod ein cartref, Pencadlys Girlguiding Cymru yn Llandinam, Broneirion, yn parhau i ffynnu yn y byd newidiol hwn.
"Pan ges i wahoddiad i weithio tuag at NVQ mewn Archifo Digidol yn arbennig er mwyn ceisio sicrhau fod archif Girlguiding Cymru yn cael ei gadw ar gyfer y cenedlaethau i ddod, wrth gwrs, bachais y cyfle.
"Mae'r arddangosfa Gwthio Ffiniau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn un arbennig, ac mae digon i'w weld a'i fwynhau yno - ffotograffau, gwisgoedd, artefactau ac, wrth gwrs, atgofion. Mae archif y Guides hefyd i'w gweld bellach ar wefan Casgliad y Werin
"Wrth chwilota drwy hen ffotograffau yn yr archif ym Mroneirion rhyw dro, yn sydyn, gwelais rywun cyfarwydd; "O ylwch! Dacw fi! Dwi'n cario Baner y Dywysoges Frenhinol - gymaint o flynyddoedd yn ôl!"
"Nawr yn yr oes ddigidol ohoni, mae hi'n bosib i bawb fynd ar-lein ac gweiddi "Ylwch! Dacw FI!", a hynny am flynyddoedd i ddod."