Cyfle i gael cipolwg ar waith datblygu'r Ysgwrn
- Cyhoeddwyd

Gwaith ar y Beudy Llwyd, lle bydd canolfan groeso'r ganolfan.
Mae'r gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu fferm Yr Ysgwrn, cartre'r bardd Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn, yn Nhrawsfynydd.
Ar gost £3.4m, y nod yw troi'r safle'n ganolfan dreftadaeth i gofnodi hanes Bardd y Gadair Ddu.
Fe ddaeth Hedd Wyn yn symbol o'r miloedd o Gymry ifanc a drengodd yn y Rhyfel Mawr.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi derbyn grant o £2.8 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn diogelu'r cartref a'r adeiladau cyfagos oedd yn eiddo i deulu Hedd Wyn a ddydd Iau, cafodd aelodau'r wasg gyfle i gael blas o'r gwaith sy'n digwydd yno.

Sgaffald ar ffermdy Yr Ysgwrn. Y tu fewn, mae'r dodrefn, y papur wal a'r carpedi wedi eu clirio.
Y bwriad yw agor y ganolfan i'r cyhoedd yn swyddogol yn 2017.
Mae chwech wythnos wedi mynd heibio ers i'r gwaith ar ail gymal o'r cynllun ddechrau.

Y peiriannau a'r gweithwyr ger y Beudy Llwyd.

Darlun o'r prif adeilad, fydd ar agor i'r cyhoedd unwaith i'r gwaith gael ei gwlbhau.

Mae'r gwaith ar y Cwt Mochyn bron a'i gwblhau.