Cytundeb y llywodraeth â Kirsty Williams
- Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi manylion y cytundeb gyda Kirsty Williams wrth iddi ymuno â Chabinet y llywodraeth.
Cafodd yr unig aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol ei phenodi'n Ysgrifennydd Addysg wedi Etholiad y Cynulliad.
Ymhlith y blaenoriaethau mae sicrhau 20,000 yn ychwanegol o dai fforddiadwy, lleihau maint dosbarthiadau a chyflwyno model newydd o brynu tai.
Bydd hefyd yn gweithio ar geisio dod â gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl i ben.
Bydd Ms Williams yn chwarae "rhan lawn" yn y trafodaethau ynghylch dyfodol y llywodraeth, meddai'r Prif Weinidog.
Meddai Ms Williams: "Mi fyddaf yn gweithio'n agos gyda fy nghyd aelodau yn y Cabinet i sicrhau bod gennym ieuenctid â chymwysterau da.
"Pobl ifanc llawn cymhelliant fydd yn gadael ein hysgolion, colegau a phrifysgolion gyda'r gallu i fod o fudd i'r gymdeithas gyfan a fydd yn arwain at economi gryfach, gwell".