Oriel luniau Y Fenni // Abergavenny in pictures

  • Cyhoeddwyd
Y Fenni o fynydd y Blorens // View of Abergavenny from the Blorenge mountainFfynhonnell y llun, Kiran Ridley
Disgrifiad o’r llun,

Croeso i'r Fenni! Dyma olygfa ysblennydd o dre'r Eisteddfod o gopa mynydd y Blorens. // From the Blorenge mountain, you can see the whole of Abergavenny laid out beneath you.

Ffynhonnell y llun, Kiran Ridley
Disgrifiad o’r llun,

Caeau'r Castell fydd cartre'r Eisteddfod rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst. // Castle Meadows in Abergavenny is the location for this year's National Eisteddfod.

Ffynhonnell y llun, Kiran Ridley
Disgrifiad o’r llun,

Mae pont Brynbuga wedi bod yn groesfan rhwng Y Fenni a Llanfoist Fawr ers y canol oesoedd. // Usk Bridge in Abergavenny is grade II listed and straddles one of Britain's best-known salmon rivers.

Ffynhonnell y llun, Kiran Ridley
Disgrifiad o’r llun,

Mae cerrig yr Orsedd o'r Eisteddfod gyntaf yn y Fenni yn 1913 bellach wedi'u lleoli yn Nôl yr Alarch. Yma, gallwch hefyd weld meini sy'n dathlu bywyd Sir Benjamin Hall, neu Arglwydd Llanofer, a roddodd ei enw i'r gloch enwog 'Big Ben' yn Nhŵr San Steffan. // The Gorsedd stones in Swan Meadow are a reminder of the 1913 Eisteddfod. Here, you can also check out the twin standing stones which commemorate Sir Benjamin Hall, or Lord Llanover. He was in charge of rebuilding Parliament when 'Big Ben' was installed, thus lending his name to London's iconic landmark.

Ffynhonnell y llun, Kiran Ridley
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Fenni yn enwog fel tref farchnad a gallwch roi cynnig ar bob math o ddanteithion lleol yn Neuadd y Farchnad sydd ar agor ar ddyddiau Mawrth, Gwener a Sadwrn. // Abergavenny's impressive 19th century Market Hall.

Ffynhonnell y llun, Kiran Ridley
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Iard y Bragdy ei adnewyddu yn 2010, ac mae'n un o'r safleoedd ar gyfer Gŵyl Fwyd y Fenni yn ogystal â digwyddiadau awyr agored eraill yn y dre. // The redeveloped Brewery Yard behind the Town Hall is one of the main locations for Abergavenny's annual food festival.

Ffynhonnell y llun, Kiran Ridley
Disgrifiad o’r llun,

Stryd y Groes ydy lleoliad Neuadd y Dre gyda'i tho trawiadol. Ar drop y stryd mae'r theatr a dyma leoliad gwesty'r Swan hefyd. // Cross Street is where you'll find Abergavenny Town Hall with its striking green roof. Look out here for the The Swan Hotel, one of the town's best-loved landmarks, and Borough Theatre.

Ffynhonnell y llun, Kiran Ridley
Disgrifiad o’r llun,

Stryd y Farchnad // Market Street

Ffynhonnell y llun, Kiran Ridley
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stryd Nevill yn un o strydoedd mwyaf hynafol tref Y Fenni. // The King's Arms on Nevill Street may well be the oldest travellers' inn in Wales.

Ffynhonnell y llun, Kiran Ridley
Disgrifiad o’r llun,

Mae arfbais teulu'r Vaughaniaid i'w gweld ar silff un o ffenestri caffi'r Trading Post. Roedd y teulu'n ddisgynyddion i Ynyr, Tywysog Gwent. // The Trading Post cafe also has historical links dating back to the 16th century. Notice the six cows' heads under the eaves - a reminder of when the building was the 'Cow Inn'.

Ffynhonnell y llun, Kiran Ridley
Disgrifiad o’r llun,

Parc Bailey, Y Fenni, yw cartref tîm rygbi'r dre'. Dyma oedd lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf i'w chynnal yn y Fenni nôl yn 1913. // Bailey Park is a popular sports venue and home to Abergavenny Rugby Football Club. It hosted the first National Eisteddfod to be held in Abergavenny in 1913.

Ffynhonnell y llun, Kiran Ridley
Disgrifiad o’r llun,

Cyfle i ddianc rhag prysurdeb y maes ac i ymlacio yng Ngerddi Linda Vista. // Check out some rare orchids and shrubs at Linda Vista Gardens, which have been open to the public since 1843.

Ffynhonnell y llun, Kiran Ridley
Disgrifiad o’r llun,

Eglwys y Santes Fair, Y Fenni, ydy un o'r eglwysi plwyf mwyaf yng Nghymru ac mae ganddi gasgliad da o gerfluniau godidog canoloesol. Yn y gorffennol cyfeiriwyd at yr eglwys fel 'Abaty Westminster Cymru'. // Don't miss the larger-than-life 'Jesse figure' at St Mary's Church. Carved from a single piece of oak in the 15th Century, it's the only one in the UK and probably the world.

Ffynhonnell y llun, Kiran Ridley
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fynydd y Blorens, sy'n un o dri mynydd sy'n amgylchynu'r Fenni. Mae'r Ysgryd Fawr a'r Fâl hefyd yn cynnig cyfleoedd da i gerddwyr brwd. // Put your best foot forward! Abergavenny is a great base for walkers, being surrounded by three mountains - the Blorenge (pictured), Skirrid and Sugar Loaf.