Damwain awyren: Ffordd wedi cau

  • Cyhoeddwyd
A40 in MonmouthshireFfynhonnell y llun, Google

Mae tri o bobl wedi cael man anafiadau ar ôl i awyren gwympo i'r ddaear ar yr A40 yn Sir Fynwy.

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 15:25 rhwng Y Fenni a Rhaglan.

Aed â dau o deithwyr a'r peilot i'r ysbyty.

Mae'r ffordd wedi cau dros dro, ac mae dau griw Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru ar y safle.