Plant mewn cartrefi gofal yn bell o'u cartrefi
- Cyhoeddwyd
Mae rhai plant sydd mewn gofal yn cael eu lleoli'n bell o'u cartref a does dim cynllunio digonol i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cefnogi'n iawn - dyna un o'r pryderon sydd yn cael eu hamlinellu yn adroddiad Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.
Dywed yr adroddiad bod hyn yn gallu achosi straen ar y gwasanaethau lleol os oes yna nifer o gartrefi plant wedi eu lleoli mewn un ardal.
Nod yr adroddiad oedd gweld pa mor ddiogel oedd plant yn teimlo mewn cartrefi plant, gweld sut y byddai modd gwella'r profiad a gwneud yn siŵr eu bod yn cael digon o gefnogaeth mewn cartref gofal, ond hefyd pan oedden nhw'n gadael i fynd i fyw mewn tŷ ar ben eu hunain.
Cafodd 34 o gyfweliadau eu cynnal gyda phlant a phobl ifanc mewn gofal preswyl ar draws Cymru a gyda gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio yn y maes.
Y pryderon arall ddaeth i'r amlwg oedd prinder tai ar gyfer pobl ifanc 18 oed neu hŷn sydd yn dewis gadael gofal preswyl, y ffaith nad oedd yna ddigon o ymgynghori gyda phobl ifanc ynglŷn â lle y byddan nhw'n byw, a phryder bod pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gweld fel troseddwyr am fod yr heddlu yn cael eu galw yn aml.
Argymhellion
Ond mae'r adroddiad hefyd yn nodi pwyntiau positif gan ddweud bod rhai cartrefi yn darparu gofal digonol i blant ac yn gwneud iddyn nhw deimlo yn fwy sefydlog. Roedd rhai o'r plant a phobl ifanc yn y cartrefi yma wedi cymryd diddordeb mewn addysg ac wedi cadw draw oddi wrth drafferthion oedd yn bodoli yn eu gorffennol.
Dywedodd Sally Holland: "Rydyn ni wedi cael ein goleuo trwy glywed profiadau pobl ifanc yn ein gwaith maes, gan gynnwys pobl ifanc sydd wedi gallu gwneud gwahaniaethau cadarnhaol i'w bywydau oherwydd cefnogaeth dda gan staff mewn cartrefi plant.
"Serch hynny, mae rhai pryderon yn cael eu mynegi, ac mae fy adroddiad yn cyflwyno argymhellion i wella profiadau pobl ifanc a sicrhau bod cefnogaeth gyson i bob person ifanc ledled Cymru.
"Mae hyn yn cynnwys canllawiau arfer da ar gynnwys pobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau a datblygu gwasanaethau, yr un gofynion hysbysu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr sy'n trefnu lleoliadau yng Nghymru, datblygu'r fframwaith arolygu yng Nghymru i fonitro achosion o alw'r Heddlu allan, ac estyn trefniadau gadael gofal 'Pan fydda i'n Barod' i bobl ifanc sy'n byw mewn gofal preswyl, ynghyd â mwy o gefnogaeth wrth iddyn nhw bontio i annibyniaeth."