Byw yn y wlad?
- Cyhoeddwyd
Mae'r Sioe Fawr, un o uchafbwyntiau'r calendr amaethyddol, yn cael ei chynnal yn Llanelwedd rhwng 18 a 21 Gorffennaf. Ond wrth i natur y gymdeithas newid, sut le yw cefn gwlad i fyw ynddo heddiw? Dyna ofynnodd Cymru Fyw i ddwy fam brysur sy'n magu plant yng Ngheredigion:
"Rhaid teithio'n bell i gael beth chi mo'yn"
Mae Nerys a'i theulu'n byw ym mhentre Llanon ar arfordir bae Ceredigion. Mae teimlad o gymuned glòs a chael teulu o'u cwmpas yn bwysig meddai, ond mae byw yn y gorllewin yn costio'n ddrud:
Mae gen i dri o blant, mae fy efeilliaid yn 15 oed ac mae'r mab ifanca' yn 4 oed. Gan ein bod ni'n byw yn y gorllewin, does dim popeth ar ein stepen drws.
Mae'r ferch am ddilyn gyrfa yn canu'r ffliwt, ac mae hi'n cael gwersi ffliwt yn y Coleg yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, felly mae'n rhaid teithio dros ddwy awr i Gaerdydd ac yn ôl ar benwythnosau.
'Byw yn y car'
Yn y wlad, mae 'na bobl sy'n dda iawn mewn gwahanol feysydd, ac mae 'na gyfleoedd da yma, mae'n anhygoel pwy sy'n byw yng Ngheredigion a'r cysylltiadau da sydd yma. Mae'r plant wedi elwa o fod yn aelod o glwb ffermwyr ifanc, dolen allanol ac o'r cyfleon yn Theatr Felinfach, dolen allanol. Ond os ydych chi am fynd â'r peth ymhellach, mae'n rhaid teithio. Ac os yw'r plant yn dangos talent a diddordeb mewn rhyw faes, mae'n ddyletswydd arno ni fel rhieni i fagu a chadw'r diddordeb hynny. Ond weithie' mae'n teimlo fel ein bod ni'n byw yn y car!
Dechreuodd ddiddordeb Mali yn y ffliwt yn Aberystwyth yn yr ŵyl offerynnol 'MusicFest' a chafodd hi wedyn ei thiwtora gan Phillipa Davies o'r Guildhall. Byth ers hynny mae wedi bod yn benderfynol iawn mai dyma beth mae hi eisiau ei 'neud, mae hi eisiau mynd ymhell.
Mae Guto am fynd i'r byd opera ac mae'n gorfod teithio i Bontarfynach i gael gwersi canu unwaith yr wythnos, gan aros gyda theulu yno. Mae e mo'yn mynd i Lundain i'r Guildhall ac wedyn i'r Eidal. Mae ei weledigaeth e i'r dyfodol yn mynd ag ef o Geredigion, ond mae e'n dweud yn bendant y bydd e'n dod nôl. Mae e'n fachgen y wlad ac eisiau cael llain o dir, magu stoc a chael y profiad hynny cyn mynd bant i'r coleg.
'Dim byd yn amhosib'
Mae'r rhwydweithiau a'r cyfleon sy' gan y bobl ifanc heddi' yn rhoi iddyn nhw y feddylfryd 'does dim byd yn amhosib'. Mae 'na blant o'r ardal yn mynd ar fysus i academi pêl-droed yn Abertawe ar y penwythnosau, mae 'na rai eraill sy'n teithio'n bell i redeg, neu i ddilyn rhyw dalent arall. Ac mae rhywun yn talu mewn i'r byd yma, dyw e ddim am ddim.
Mae'r cwestiwn yn codi'n aml yn ein tŷ ni, pa mor hir fyddwn ni'n gallu aros mewn rhywle gwledig fel Ceredigion? Rwy'n lwcus iawn i gael gwaith llawn amser, parhaol yn y sector gyhoeddus. Mae'r gŵr yn diwniwr piano ac yn teithio ardal eang, ac mae 'na gostau teithio uchel gyda hynny. Ond mae 'na lot o bobl yn gorfod gweithio dwy, dair swydd i gadw i fynd yma.
Dwi'n berson y wlad, yn lico cael lle agored ac awyr iach. Mae pawb yn gwybod eich hanes, ac er bod 'na fantais o fyw mewn tref neu ddinas lle allech chi guddio, allwch chi ddim rhoi pris ar deulu, ar y gymuned a chefnogaeth pobl leol. Rydyn ni'n lwcus iawn bod rhwydwaith teuluol gyda ni yn lleol. Os ydyn ni angen rhywun, gallwn godi'r ffôn a bydd rhywun yna i helpu.
Mae 'na gyfleoedd da yng nghefn gwlad, ond fy neges i i'r plant yw edrychwch tu allan i Geredigion. Cymerwch bob cyfle. Mwynhewch y byd a'i bobl, a bydd wastad cartref yma i chi.
"Hapus fy myd"
Mae Wendy yn byw ym mhentre' gwledig Cwmsychbant gyda'i gŵr a dwy ferch, ac mae'n dweud er bod pethau'n anodd yn y diwydiant amaethyddol ar hyn o bryd, mae'n ddyletswydd arnyn nhw i fod yn bositif.
Merch ffarm ydw i'n wreiddiol, fe gwrddes i â Sion pan o'n i'n 17 oed. Mynd i Goleg y Drindod, dyweddïo, a dod i fyw yma, a'r gŵr yn ffarmo'r ffarm deuluol. Merch y wlad ydw i a nôl i'r wlad ddes i.
Dwi wedi bod yn ffodus i gael gwaith yn yr ardal, yng Nghastell Newydd Emlyn ac yn Llandysul, ond ers rhyw ddwy flynedd dwi wedi gadael y gwaith, ac yn helpu ar y ffarm. O'n i'n gweld eisiau'r byd gwaith i ddechre, y bobl, y cymdeithasu a'r glonc amser cinio, a'r cyfle i wisgo dillad teidi a mynd mas o'r tŷ. D'yn ni ddim yn byw ar y ffarm, ac fe alla' i fynd trwy'r dydd adre' heb weld neb, ac mae hynny'n gallu bod yn unig.
Rhan o gymuned
O'n i'n arfer meddwl bod y wlad yn lle diogel, ond sai'n siŵr am hynny erbyn hyn, sai'n gadael fy merched i fynd mas ar eu beic ar ben eu hunain, er o'n i'n gallu neud 'ny pan o'n i'n fach.
Dwi'n hoffi'r agosatrwydd sy' yng nghefn gwlad, a bod yn rhan o gymuned. Os oes problem, dim ond codi'r ffôn sy' angen ac mae'r cymdogion yma i ni.
Er bod 'na ddigon i'r plant i 'neud, mae'n rhaid mynd yn eitha' pell iddyn nhw ei gael e ac mae hynny'n gallu costio dipyn o arian yng nghefn gwlad, rhwng costau'r gwersi a phetrol i gyrraedd 'na ac yn y blaen.
Mae'r clwb ffermwyr ifanc yn cynnig cyfleoedd ffantastig - ymuno â'r clwb lleol yw'r peth gore sy' 'di digwydd i Beca'r ferch. Trwy'r Ffermwyr Ifanc gwrddodd Siôn a finne flynyddoedd yn ôl, ac mae Beca wedi cael cyfleoedd gyda'r côr a siarad cyhoeddus, maen nhw wedi ennill ar lefel cenedlaethol ac mae'r profiad wedi bod yn werthfawr iawn iddi.
"Cael ein gadael ar ôl"
Dwi'n teimlo ambell waith ein bod ni'n y wlad, yn enwedig yn yr ardal yma, yn cael ein gadael ar ôl. Does dim broadband gyda ni, mae'r cysylltiad we yn araf. R'yn ni'n ddibynnol ar satellite a soser o flaen y tŷ, ond wedi dweud hynny, ry'n ni'n lwcus bod e gyda ni, achos mae'n llawer gwell na'r system dial up o'n ni'n arfer dibynnu arno.
Mae cymaint o waith ysgol y plant yn ddibynnol ar y we y dyddie' hyn ac mae gwaith y ffarm yn gorfod cael ei 'neud ar y we hefyd, mae'n rhwystredig iawn. Rydyn ni'n talu lot o arian i'w ddefnyddio, ond dyw'r gwasanaeth ddim cystel â beth ma pobl yn ei gael mewn ardaloedd eraill.
Y dyfodol
O ran y dyfodol, dwi'n credu bod cefn gwlad yn rhy dawel i Beca. Sai'n ei gweld hi'n aros yma. Dwi'n gobeithio yr eith hi i'r brifysgol - ac y bydd hi'n mynd yn bell, er mwyn cael y profiad na gefais i, ond fi'n ofni ddeith hi ddim nôl ffordd hyn.
Ond ffermio yw popeth i Lisa y ferch ifanca', dyna'r cwbl y mae hi mo'yn ei wneud. Mae pethe'n anodd iawn yn y byd amaethyddiaeth ar hyn o bryd, ond mae'n rhaid i ni fod yn bositif. Os yw Lisa mo'yn rhedeg y ffarm, mae'n rhaid i ni weithio'n galed nawr er mwyn rhoi'r cyfle iddi hi i'r dyfodol.
Dwi'n meddwl dy fod ti'n cael dy eni un ffordd neu'r llall. Naill ai ti'n mo'yn aros yn y wlad neu ti'r math o berson sy' mo'yn mynd ymhellach. Merch y wlad ydw i, a dwi'n hapus fy myd 'ma.